12 Diwrnod o Ffitrwydd

Gwynedd Council

12 Diwrnod o Ffitrwydd

Mae hi bron yn gyfnod y Nadolig ac mae ganddom ni anrheg i chi…

Dyma gyfle i chi gael blas ar yr hyn sydd gan Byw’n Iach i gynnig i chi yn ystod mis Rhagfyr…

O fewn ein 12 canolfan yng Ngwynedd, mae Byw’n Iach yn cynnig 12 diwrnod o ffitrwydd am £12! Mae cyfle i chi gael blas o’r canolfannau Byw’n Iach a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol er mwyn i chi drio’r hyn sydd gennym ni i gynnig i bobl Gwynedd:

  • Dosbarthiadau ffitrwydd
  • Chwaraeon raced
  • Ystafell ffitrwydd
  • Ystafell bwysau
  • Pwll Nofio*

Yn dilyn eich 12 diwrnod o ffitrwydd, os rydych am ymuno bydd £12 yn cael ei ddidynnu o’r taliad debyd uniongyrchol cyntaf… pa ffordd well o ddatblygu eich ffitrwydd, neu i gychwyn aduniad ar gyfer y flwyddyn newydd.

*Nid yw nofio ar gael ym mhob lleoliad

 

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt