Actif Am Oes!

Gwynedd Council

 

Actif Am Oes

  • Ystod o weithgareddau ffitrwydd a chwaraeon dwysedd isel ar gyfer pob oedran ar draws Gwynedd.
  • Mae’r sesiynau’n boblogaidd gyda phobl hŷn, rhai sy’n edrych i gychwyn neu ail-gychwyn ymarfer corff,  rhai sy’n gwella o anafiadau, pobl gydag anableddau.
  • Mae croeso mawr i’r rhai sy’n dilyn Rhaglen NERS neu sydd wedi cwblhau’r rhaglen ddod i’r sesiynau yma.
  • Sicrhewch eich bod yn archebu unrhyw sesiynau cyn i chi fynychu’r ganolfan.
  • Wrth edrych ar ein rhaglenni canolfan chwiliwch allan am y logo Actif am Oes biws.

Mae pob canolfan yn cynnig Bore neu Brynhawn Actif am Oes lle bydd cyfle i chi ymweld â’r ganolfan am sesiwn 2 awr i ddefnyddio amrywiaeth o’r cyfleusterau am bris arbennig o £3. Mae’r union gyfleusterau a gweithgareddau’n amrywio rhywfaint o ganolfan i ganolfan ond fel arfer yn cynnwys:

  • Cyfle i i ddefnyddio’r Ystafell ffitrwydd efo dipyn o gefnogaeth gan ein staff
  • Gweithgareddau Neuadd Chwaraeon (e.e. badminton, tenis bwrdd, pickleball, boccia neu tenis byr)
  • Dosbarth ffitrwydd dwysedd isel (e.e. Aerobics Cadair, Circuits Ysgafn)
  • Cyfle i ddefnyddio ein gerddi cymunedol
  • Cyfle i ddefnyddio cyrtiau chwaraeon raced (e.e. sboncen, tenis ayb)
  • Cyfle i ddefnyddio ein caeau tu allan
  • Mae’r sesiynau Nofio am Ddim 60+ hefyd yn rhan o’r cynllun ac ar gael ym mhob Pwll Nofio Byw’n Iach. Mwy o wybodaeth am Nofio am Ddim.

Heblaw am y Bore neu Brynhawn Actif am Oes pob wythnos, mae amrediad o weithgareddau dwysedd isel ar raglenni pob canolfan. Rydym wedi marcio’r rheiny gyda’n logo Actif Am Oes biws. Maen nhw’n cynnwys sesiynau Nofio am Ddim 60+, sesiynau garddio cymunedol am ddim a dosbarthiadau ffitrwydd dwysedd isel sydd ar gael am y ffi arferol neu trwy aelodaeth.

Mae prisiau consesiwn is ar gael ar amrediad o weithgareddau ar gyfer rhai sydd yn 60+ neu wedi cofrestru’n anabl.

Holwch ein staff yn y ganolfan am fwy o wybodaeth neu cymerwch olwg ar ein rhestr prisiau ar lein: Prisiau

Isod mae’r amserlenni ar gyfer y canolfannau,

Amserlenni Canolfan:

Amserlen Dosbarthiadau Dwysedd Isel Ar Lein?

Cofrestrwch i gymryd rhan yn y Dosbarthiadau Ar-lein

Lle Diwrnod Amser Gweithgaredd
Zoom Dydd Llun 10.30-11.15 Symudiad Tai Chi Ar Gyfer Lles
Zoom Dydd Mawrth 11.30-12.00 Symudiad Ar Gyfer Lles
Zoom Dydd Iau 10.30-11.15 Pilates

Adborth Actif Am Oes

Beth wnaeth i chi fynychu gwersi ioga?
Gan fod y ddau ohonom wedi ymddeol roedden ni’n gweld hi’n bwysig i gadw mor ystwyth â phosibl. Rydan ni’n mwynhau cerdded a garddio, ond dydy’r tywydd ddim bob amser yn ffafriol i hynny ac roedden ni’n clywed bod ioga yn llesol i’r corff a’r meddwl.
Beth oedd eich argraffiadau cyntaf?
Roedden ni’n teimlo’n gwbl gyfforddus yn y sesiynau o’r cychwyn cyntaf – yn arbennig gan fod dynion a merched yno. Doedd dim pwysau i ni wneud dim oedd yn profi’n heriol i ni gan mai’r cyfarwyddyd bob amser ydy i weithio o fewn ein gallu.
Sut mae pethau erbyn hyn?
Mae’r hyfforddwraig yn dweud ein bod wedi gwneud cynnydd da ers y cychwyn ac rydan ninnau yn gweld ein hunain yn gryfach ac yn fwy abl i gynnal y symudiadau. Mae balans y ddau ohonom wedi gwella yn sylweddol, sy’n holl bwysig wrth i ni heneiddio gan fod balans gwael yn aml yn achosi codymau. Mae poen ysgwydd un ohonom hefyd wedi diflannu.
Beth ydy’r manteision?
Dydy rhywun ddim bob amser efo’r ‘awydd’ i droi allan i wers ond, yn ddieithriad, rydym yn falch ein bod wedi gwneud yr ymdrech i fynd. Mae’r ymarferion yn gwneud i rywun ystwytho ac ymlacio ac yn ddiamau yn gwneud lles meddyliol yn ogystal â lles corfforol. Er nad yw’r symudiadau bob amser yn teimlo’n heriol ar y pryd mae rhywun yn gwybod y diwrnod wedyn ein bod wedi bod yn ymarfer cyhyrau gwahanol! Mae pwysau gwaed y ddau ohonom yn dda iawn ac mae sôn bod hynny yn un o fanteision llesol ioga.
Ydach chi wedi gwneud defnydd arall o’r cynllun Actif Am Oes?
Rydan ni wedi bod am un sesiwn yn yr ystafell ffitrwydd a chael budd ar gael arweiniad un-i-un ar sut i ddefnyddio gwahanol offer. Byddwn yn gobeithio mynychu mwy o’r sesiynau hyn ar ôl prysurdeb yr haf.

Fedrwch archebu’ch slot amser ymlaen llaw trwy’r system Archebu o Cartref neu dros y ffôn:

Archebwch Ar-lein
Archebwch drost y Ffon

*mae’n bwysig  i chi gael cyngor meddyg teulu cyn dechrau ymarfer os oes gennych i chi gyflwr iechyd penodol, anaf neu heb ymarfer er amser hir.

 

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt