Seiclo Dan Do
Mae dosbarth seiclo dan do yn un o’r goreuon am losgi calorïau! Bydd y dosbarth beicio grwp dan do yn eich helpu i ddod yn ffit yn gyflym, gan fynd â’ch ffitrwydd i’r lefel nesaf.
Mae beics llonydd yn rhoi ymarfer corff heb ardrawiad. Mae natur yr ardrawiad isel yn lleihau’r straen ar eich pengliniau a’ch traed, ac yn caniatáu i chi weithio gyda lefel ymwrthedd sy’n gweddu i chi.
Gyda miwsig trance egnïol a hyfforddwyr brwd i’ch cymell i fynd yn gynt, mae beicio dan do yn ffordd ragorol o gael eich siâp yn ôl.
Mae gennym hefyd systemau hyfforddi Spivvi yn rhai o’r canolfannau, sy’n eich galluogi i hyfforddi ar y beiciau y tu allan i’r dosbarthiadau mewn ffordd effeithiol a chynhyrchiol!
Am fwy o wybodaeth am Seiclo Dan Do yn eich canolfan leol, ewch i’w tudalennau yma:
Canolfannau