Chwaraeon Raced
Mae chwaraeon raced yn ffordd hwylus a hawdd i gymryd rhan yn chwaraeon. Rydym yn cynnig cyfleusterau sboncen, badminton, tenis a thenis bwrdd yn canolfannau Byw’n Iach.
Os rydych chi’n gystadleuol ac yn edrych i wella neu os ydych chi’n chwilio am ffordd wych o gadw’n heini, mae chwaraeon raced yn cynnig ffordd berffaith o aros yn iach.
Mae chwaraeon raced yn wych ar gyfer:
- Hybu iechyd cardiofasgwlaidd
- Gwella cydsymud
- Datblygu ystwythder
- Gwella iechyd cymdeithasol
- Helpu gydag iechyd meddwl
- Gwella hyblygrwydd
Canolfan Tenis, Arfon
Mae amrywiaeth o weithgareddau tenis ar gael yn y ganolfan.
Fe’ch cynghorir i logi y cyrtiau 3 diwrnod ymlaen llaw drwy gysylltu â’r ganolfan.
Mae 3 cwrt dan do a 4 cwrt awyr agored ar gael. Gall racedi a pheli gael eu llogi am ddim, yn ogystal mae racedi a grips ar gael i’w prynu. Mae gwasanaeth atgyweirio racedi ar gael hefyd – cysylltwch gyda’r ganolfan tenis am fwy o wybodaeth.
Gallwch archebu sesiwn Chwaraeon Raced trwy gysylltu â’r ganolfan, a byddwn yn falch o’ch gweld.