Cynllun Beiciau Trydan Byw’n Iach
Mae’r cynllun newydd yma yn cyflwyno pobl i ddefnyddio beic trydan am y tro cyntaf, cyfle i bobl logi beics yn unigol neu ar safleoedd Byw’n Iach mewn sesiynau dan arweiniad a mynd ar deithiau o amgylch yr ardaloedd cyfagos.
Mae defnydd or beics trydan ar gael i bawb sydd ar gynllun Debyd Uniongyrchol Byw’n Iach.
Rydym â fflyd o chwech beic symudol ar gael i’w llogi gyda hyfforddwr cymwys yn arwain. Perffaith i grwpiau bach, fel gweithgaredd tim, neu os ydych yn bell o’r safle llogi agosaf. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma, ag am ddyfynbris, e-bostiwch cyswllt@bywniach.cymru
Lleoliadau
Bydd y beics trydan ar gael yn y ganolfannau canlynol o 01/03/23
- Byw’n Iach Bangor
- Byw’n Iach Arfon, Caernarfon (safle tenis)
- Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes
- Byw’n Iach Penllyn, Y Bala
Archebu
- Byw’n Iach Bangor – 01248 370600
- Byw’n Iach Arfon, Caernarfon (safle tenis) – 01286 676945
- Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes – 01286 882047
- Byw’n Iach Penllyn, Y Bala – 01678 521222
Neu archebwch ar-lein: Cliciwch Yma
Prisiau llogi
Prisiau
Prisiau hanner diwrnod
Defnyddiwr | Aelod | Di Aelod |
---|---|---|
Oedolyn | £11.10 | £13.60 |
Consesiwn (16-24/ 60+/ anabl) | £9.40 | £11.30 |
Pris sesiynau dan arweiniad
Defnyddiwr | Aelod | Di Aelod |
---|---|---|
Oedolyn | £7.50 | £9.40 |
Consesiwn (16-24/ 60+/ anabl) | £5.10 | £6.60 |
Cytundeb Llogi Beics – Telerau ac Amodau
Mae rhaid i gwsmeriaid arwyddo’r cytundeb yma cyn llogi: