Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff
Mae’r Cynllun Atgyfeirio i Ymarfer Corff Gwynedd yn rhan o’r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru , gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion segur, sy’n wynebu risg o ddatblygu problemau iechyd, neu bobl â ganddynt gyflwr iechyd yn barod. Diben y cynllun yw hyrwyddo iechyd a lles drwy annog gweithgareddau corfforol hirdymor.
Sut mae manteisio ar y gwasanaeth?
Bydd angen i chi gael eich cyfeirio gan Weithiwr Iechyd Proffesiynol (fel arfer eich meddyg teulu, nyrs practis neu ffisiotherapydd sy’n ymwneud â’r clefyd dan sylw) a fydd â mynediad at wefan dosbarthu atgyfeiriadau NERS.
Ydw i’n gymwys i gael mynediad at NERS?
Mae’r Cynllun yn targedu pobl 16 oed sydd â/neu mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig. Mae meini prawf penodol a bydd rhaid i’ch arbenigwr iechyd ofalu eich bod yn cyd-fynd â nhw.
Faint fydd y gost?
£2.00 yw’r sesiynau ymarfer o dan y cynllun.
Beth yw hyd y cynllun?
Mae’r cynllun yn para o 4-32 wythnos yn dibynnu ar reswm atgyfeirio; bydd pob sesiwn yn para awr a bydd y gweithgaredd yn amrywio o weithgaredd dan do; campfa, ymarfer cylchol neu weithgaredd awyr agored. Mae disgwyl i chi fynychu’r sesiynau yn rheolaidd a mynychu ymgynghoriadau dilynol ar ôl 16 a 52 wythnos. Mae amseroedd aros lleol neu amseroedd aros atgyfeirio yn amrywio ac yn ddibynnol ar argaeledd staff cymwys.
Cyflyrau Iechyd Cronig
Mae gan y Gweithwyr Ymarfer Corff nifer o gymwysterau, ac maent hefyd yn gymwys i weithio gyda chleientiaid â chyflyrau cronig:
- Hyfforddwyr Adferiad Cardiaidd BACPR
- Hyfforddwyr Ymarfer – Anadlu Cronig
- Hyfforddwyr Ymarfer – Canser
- Hyfforddwyr Rheoli Gordewdra a Diabetes
- Hyfforddwyr Sefydlogrwydd Corfforol ac Atal Codymau
- Hyfforddwyr Ymarfer – Iechyd Meddwl
- Hyfforddwr Gofal Cefn
Am ragor o wybodaeth am y cynllun NERS, ewch i’r wefan (Wefan NERS) neu cysylltwch â’r cydlynwyr
James Richards – 07833441175 neu E-Bost
Terry Williams – 07813594777 neu E-Bost