Gwersi Gymnasteg
Mae Byw’n Iach yn cynnig amrywiaeth o lefelau gwersi gymnasteg mewn 5 o’n canolfannau, o ddosbarthiadau cychwynwyr: efydd, dosbarth canolradd: arian, dosbarth uwch: aur, hyd at ddosbarth elit, platinwm.
Dilynai gwersi Gymnasteg Byw’n Iach lwybr ‘A-Z’ Gymnasteg Cymru sydd yn datblygu sgiliau hanfodol gymnasteg yn y meysydd canlynol :
- Sgiliau Llawr
- Adlamu a Llofneidio
- Mainc a Thrawst
- Cyflyru
- Hyblygrwydd
- Coreograffi
- Offer Llaw
Mae rhaid i bob plentyn fod mewn addysg llawn amser er mwyn mynychu gwersi; h.y yn 4 oed ac yn troi yn 5 oed yn y flwyddyn addysgol (Medi 01 – Awst 31). Awgrymir bod plant hyd at 14 oed yn mynychu, yna awgrymir eu bod yn dilyn gyda hyfforddiant gyda chymhwyster arweinydd chwaraeon.
Fe fydd taliadau am y gwersi yn cael eu derbyn drwy daliad DU misol. Unwaith y bydd gymnastwyr wedi cwblhau lefel Platinwm, byddent wedi cyrraedd diwedd eu taith yng ngwersi Gymnasteg Byw’n Iach a byddant yn gallu parhau drwy ddatblygu mewn clybiau lleol.
Dyma amserlenni gymnasteg canolfannau Byw’n Iach: