Gwersi Nofio Plant
Dyma becyn gwybodaeth ar gyfer y gwersi nofio sydd yn cael ei gynnig yn Byw’n Iach: Pecyn Gwersi Nofio
Mae Byw’n Iach yn cynnig gwersi nofio ar gyfer pob gallu fel rhan o’n gwaith i annog pawb i fyw’n iach.
Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Mae ein gwersi nofio yn gwneud yn siŵr fod POB plentyn yn dysgu nofio gwaeth be yw eu gallu, na’u hanghenion.
Mae gennym hyfforddwyr gyda chymwysterau SEQ lefel uchel ac maent yn mynychu hyfforddiant parhaus. Felly, gallwch fod yn hyderus y bydd eich plentyn yn cael hyfforddiant rhagorol.
Mae gwersi nofio ar gael yn:
- Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
- Byw’n Iach Bangor
- Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn
- Byw’n Iach Bro Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog
- Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli
- Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
- Byw’n Iach Penllyn, Bala
Rydym yn cynnig pecyn Debyd Uniongyrchol gwych i ledaenu cost dysgu eich plentyn hefyd.