Nofio am Ddim
Lansiwyd Nofio Am Ddim am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2003. Hon oedd y rhaglen nofio am ddim genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Y nod? Cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a phobl dros 60 oed i ddysgu nofio a nofio’n fwy rheolaidd.
Mae’n fenter sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, ei rheoli gan Chwaraeon Cymru a’i chyflwyno gan y 22 o Awdurdodau Lleol.
Rydym yn cynnig …
Nofio Am Ddim i rai o dan 16oed
Mae pob un o’r saith pwll nofio yn cynnig sesiynau nofio am ddim i blant dan 16 yn ystod penwythnosau, heblaw am sesiwn Bro Ffestiniog sydd ar Nos Fawrth. Mae hefyd sesiynau ychwanegol am ddim ar gael yn ystod gwyliau’r haf.
Mwy o sesiynau yn cael eu cynnig yn gwyliau haf edrychwch allan am fwy o wybodaeth.
Sylwer: Efallai y bydd angen dangos tystiolaeth o’ch oed a’ch bod yn byw yng Nghymru.
Bydd angen Tocyn Aelodaeth Blynyddol Byw’n Iach i fynychu sesiynau nofio am ddim. Cysylltwch a’r ganolfan leol er mwyn trefnu hyn.
Gweler amserlen nofio ein canolfannau isod.
Nofio am ddim 60+
Gall cwsmeriaid dros 60 oed, sy’n byw yng Nghymru, nofio yn unrhyw un o’n pyllau nofio am ddim yn ystod sesiynau nofio penodol.
*Rhaid i chi gael yr aelodaeth flynyddol i gael mynediad i’r sesiynau am ddim 60+
Gweler amserlen nofio ein canolfannau isod.
Nofio am Ddim trwy’r Cerdyn Max
Mae Byw’n Iach yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol MAX Card. Rhagor o wybodaeth ar y wefan yma: Gwefan Cerdyn Max
Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio teulu yn ein pyllau i deuluoedd sydd a Cherdyn Max. Bydd angen i un oedolyn yn y teulu fod yn aelod o Byw’n Iach er mwyn i’r teulu cael nofio am ddim. Pan fydd y cwsmeriaid yn ffonio i archebu lle, rhaid gwneud y canlynol.
Nofio am Ddim ar gyfer Gofalwyr Ifanc
Mae Byw’n Iach yn cynnig nofio am ddim i bawb sydd gyda cherdyn adnabod Gofalwyr Ifanc.
Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio cyhoeddus i’r Gofalwr + 1 ffrind neu aelod teulu.
Nofio am Ddim ar gyfer Cyn-filwyr
Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio yn ein pyllau i unrhyw un sydd hefo cerdyn DDS a Defence Privilege Card.
Nid oes angen iddynt fod yn aelod i dderbyn nofio am ddim, ond mae yn ofynnol i ddangos y cerdyn isod.
Mae buddion nofio rheolaidd yn cynnwys:
- Gwella’ch ffitrwydd – Mae nofio yn gweithio’ch corff cyfan wrth wella cyflyru cardiofasgwlaidd, cryfder cyhyrau, dygnwch, osgo a hyblygrwydd i gyd ar yr un pryd. Gall nofio helpu i leihau pwysedd gwaed uchel hefyd. Yn wahanol i chwaraeon eraill, mae nofio yn cynnwys pob grŵp cyhyrau a pob rhan o’r system ynni!
- Ymarfer Dwysedd Isel – Mae nofio yn weithgaredd risg isel gan fod llai o straen ar eich esgyrn, cymalau neu feinweoedd cysylltiol. Os ydych chi’n chwilio am fath diogel o ymarfer corff, mae nofio yn ddelfrydol oherwydd gallwch chi ymarfer gyda risg isel o anaf.
- Help i golli pwysau – Os ydych chi’n edrych i golli pwysau, nofio yw’r ymarfer delfrydol. Gall nofiwr losgi cymaint o galorïau mewn awr â rhedwr sy’n rhedeg 6 milltir yn yr un amser.
- Lleihau straen – Gall nofio eich ymlacio’n llwyr oherwydd y mae’n galluogi mwy o ocsigen i lifo i’ch cyhyrau ac yn cynorthwyo i reoli eich anadl. Mae hefyd yn ffordd wych o ryddhau straen.
Prisiau:
Mae angen Tocyn Aelodaeth Blynyddol Byw’n Iach fynychu sesiynau Nofio Am Ddim 60+.
I weld prisiau aelodaeth Byw’n Iach cliciwch yma: Prisiau
I brynu tocyn blynyddol: Cysylltwch Yma
Mae nofio am ddim ar gael yn y canolfannau canlynol:
- Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
- Byw’n Iach Bangor
- Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn
- Byw’n Iach Bro Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog
- Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli
- Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
- Byw’n Iach Penllyn, Bala