Pasbort Ffitrwydd 11-15 oed

Gwynedd Council

Beth yw’r Pasbort Ffitrwydd?
Y pasbort ffitrwydd yw cynllun sydd wedi ei ddatblygu gan Byw’n Iach er mwyn rhoi’r rhyddid i blant 11-15 oed defnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd tu allan i sesiynau dan arweiniad.

Mae’r pasbort yn dangos bod yr unigolyn yn gymwys i ddefnyddio’r cyfleusterau yn annibynnol.

 

Yr Broses Asesu
I dderbyn pasbort ffitrwydd, bydd rhaid i unigolyn fynychu oeliaf tair sesiwn dan arweiniad hyfforddwr yn y ganolfan a derbyn asesiad.

Mae’r proses pasbort ffitrwydd yn cael ei asesu mewn pedair rhan:

Rhan 1: Peiriannau Cardio

Mae’r rhan yma yn sicrhau fod unigolion yn cymwys i ddefnyddio’r peiriannau Cardio canlynol yn yr ystafell ffitrwydd:

  • Crosstrainer
  • Upright Bike
  • Treadmill
  • Recumbent Bike
  • Rhwyfo

Rhan 2: Peiriannau Gwrthiant

Mae’r rhan yma yn sicrhau fod yr unigolyn yn cymwys i ddefnyddio’r peiriannau gwrthiant canlynol yn yr ystafell ffitrwydd:

  • Leg extension
  • Leg Press
  • Leg Curl
  • Chest Press
  • Shoulder Press
  • Lat Pull Down

Rhan 3: Ymestyn

Yn y rhan yma, fydd yr unigolyn yn dysgu cyfres ymestyn dynamic ac static fydd yn hanfodol er mwyn defnyddio’r ystafell ffitrwydd.

Fydd y rhain yn targedu:

  • Cefn
  • Ysgwyddau
  • Gwddf Gwar
  • Cluniau
  • Llinyn Iar
  • Ffer
  • Pen ôl
  • Bron/chest

Rhan 4: Prawf

Mae’r rhan olaf yn defnyddio’r tair rhan flaenorol i asesu os ydi’r unigolyn yn cymwys i dderbyn y pasbort. Fydd rhaid i’r unigolyn ddangos fod yn gallu:

  • Defnyddio’r peiriannau cardio yn gywir
  • Defnyddio’r peiriannau gwrthiant yn gywir
  • Gwneud ymarferion ymestyn yn gywir

Unwaith fydd yr unigolyn wedi dangos fod yn gallu defnyddio’r ystafell yn gywir, mi fydd yr hyfforddwr yn dyfarnu’r pasbort ffitrwydd i’r unigolyn.

Os fydd yr hyfforddwr yn teimlo fod yr unigolyn ddim yn cymwys ar ôl dair sesiwn, fydd ganddyn nhw hawl i wrthod rhoi pasbort. Ond, mi fydd dal modd i’r unigolyn mynychu ar sesiynau dan arweiniad tan maen nhw’n cyrraedd y safon ddisgwyliedig.

Cyfleusterau fydd ar gael ar ôl derbyn yr Pasbort Ffitrwydd
Ar ôl derbyn pasbort ffitrwydd, bydd modd i’r unigolyn ddefnyddio holl gyfleusterau’r ystafell ffitrwydd yn annibynnol.

Mi fydd y pasbort hefyd yn caniatáu i unigolion 11-15 cael mynediad i’r pecynnau debyd uniongyrchol mae Byw’n Iach yn cynnig, sydd yn gwneud hi’n rhatach i ddefnyddio’r cyfleusterau.

Fydd ddim modd i unigolion o dan y cynllun ddefnyddio’r Ystafell Bwysau

Cysylltwch gyda’ch canolfan lleol: Cyswllt

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt