Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bwriad i barhau i gynnal y sesiynau poblogaidd chwarae i blant gydag anghenion ychwanegol mewn partneriaeth gyda Thîm Derwen.
Cynnwys y sesiynau :
Mae’r sesiynau yn cynnig amrywiaeth o wahanol weithgareddau felly fydd yna rywbeth i diddordebau ac anghenion bob plentyn! Mae rhai o’r gweithgareddau yn cynnwys chwarae meddal, gweithgareddau sensori, cyfle i chwarae gyda’i gilydd a lond neuadd o hwyl.
Mae Llond Neuadd o Hwyl yn cynnwys castell neidio, teganau amrywiol ac ardal synhwyrol, felly fydd ddim prinder o hwyl ar gael!
Pwy fydd yn gallu ymuno a’r sesiynau?
Mae’r sesiynau’n agored i bob plentyn a pherson ifanc sydd ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. Croeso cynnes iawn i frodyr a chwiorydd, rhieni, gofalwyr a neiniau a theidiau! Mae’r sesiynau ar gyfer y teulu i gyd!
AMSER SESIYNAU Y NEUADD
Mynediad am ddim i rai gweithgareddau yng nghyfleusterau Canolfannau Byw’n Iach Gwynedd:
Dydd Sadwrn Cyntaf o bob mis :
- Byw’n Iach Arfon : 10:00-11:00
- Byw’n Iach Dwyfor : 10:00 – 10:45
- Byw’n Iach Penllyn : 10:00 – 11:00
Ail Dydd Sadwrn o bob mis :
- Byw’n Iach Glaslyn : 10:00 – 10:45
AMSER SESIYNAU NOFIO
Mae sesiynau Nofio hefyd yn cael eu cynnig yn y canolfannau a bydd ffioedd nofio arferol yn daladwy ar gyfer y sesiynau hynny. Ond cofiwch fod modd i unrhyw deulu sydd â phlentyn anabl neu blentyn maeth archebu Cerdyn Max– sydd yn cynnig Nofio am ddim i’r teulu cyfan.
- Byw’n Iach Dwyfor : Trydydd Dydd Sadwrn o bob mis 10:00 – 10:45
- Byw’n Iach Arfon : Dydd Sadwrn Cyntaf o bob mis 11:30 – 12:00
- Byw’n Iach Glaslyn : Pedwerydd Dydd Sadwrn o bob mis 14:00 – 14:30
- Byw’n Iach Penllyn: Dydd Sadwrn 11:00 – 12:00
*Mae cymorth nofio / gwersi nofio anffurfiol ar gael yn ystod y sesiwn nofio yn Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog a Byw’n Iach Dwyfor. Mae’r cymorth yma am ddim yn ystod y sesiwn, siaradwch gydag aelod o staff y ganolfan!
PRIS
O’r 1af Ebrill 2023 bydd ffi o £3.00 yn cael ei godi ar gyfer teuluoedd sydd yn mynychu gydag un plentyn.
Mi fydd teuluoedd sydd a mwy nag un plentyn yn medru prynu tocyn teulu am £5 a does dim cyfyngiadau wedyn ar y nifer o frodyr/ chwiorydd sydd yn cymryd rhan.
SUT I ARCHEBU?
Cysylltwch gyda’r ganolfan berthnasol :
- Byw’n Iach Dwyfor : 01758 613437
- Byw’n Iach Arfon : 01286 676451
- Byw’n Iach Glaslyn : 01766 512711
- Byw’n Iach Penllyn : 01678 521222