Uned Partneriaethau
Ar Fedi’r 1af 2021, trosglwyddodd Tîm Chwaraeon am Oes Cyngor Gwynedd i gwmni Byw’n Iach.
Mae’r Tîm Chwaraeon am Oes yn cynnig ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau chwaraeon i gymunedau lleol. Fel rhan o’r trosglwyddiad yma bydd Uned Partneriaethau newydd a chyffrous yn cael ei sefydlu o fewn y cwmni a fydd yn datblygu partneriaethau newydd law yn llaw â chlybiau, ysgolion a mudiadau yn y sir o dan adain Byw’n Iach.
Darllenwch newyddlen diweddara Uned Partneriaethau yma: Darllen
Dyma’r Tim
Magi Elin Hughes
Swydd: Swyddog Ysgolion
Hoff chwaraeon: Hoci, Pel-droed + HIIT
Prif lwyddiannau ym myd Chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
- Cael sesiwn hyfforddi pêl-droed gan Albert ‘Chapi’ Ferrer yn Barcelona
- Gradd mewn Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol
- Paragleidio oddi ar Fynydd Babadağ, Twrci
- Cynrychioli Colegau Cymru mewn Hoci
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon: Jessica Ennis-Hill
Nod/Targed personol ar gyfer y flwyddyn o ran chwaraeon/gweithgaredd corfforol: Cerdded Ben Nevis
Ffion Gwawr Williams
Swydd : Swyddog Prosiectau, digwyddiadau a partneriaethau
Hoff chwaraeon: Rygbi / Athletau / Funcional Fitness / HIIT
Prif lwyddiannau ym myd Chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
- Rhedeg ysgol ddawns ‘Stiwdio Ddawns Bangor’ ers 17 mlynedd.
- Cwbwlhau ras ‘Great Manchester Run’
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon: Jessica Ennis-Hill
Nod/Targed personol ar gyfer y flwyddyn o ran chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
Cwblhau cymhwyster hyfforddiant personol Lefel 3
Bev Atkin
Swydd : Swyddog Ysgolion
Hoff chwaraeon: Rhedeg, Seiclo, Athletau & HIIT
Prif lwyddiannau ym myd Chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
- Enill (Merch Cyntaf) Cybi Coastal Marathon
- Enill (Merch Cyntaf) Pen Llyn Coastal Marathon
- Rhedeg 3 Ultra Marathon ac dod yn ail yn Pen Llyn Ultra 50 Milltir
- Gorffen Marathon Eryri o dan 4 awr
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon: Russell Bentley
Nod/Targed personol ar gyfer y flwyddyn o ran chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
- Cystadlu mewn “Back Yard Ultra”
- Seiclo i Gaerdydd
- Rhedeg ras mynydd
- Curo fy amser yn Marathon Eryri
Sion Williams
Swydd : Hyfforddwr Ffitrwydd a Actif Am Oes
Hoff chwaraeon: Pêl Droed, Golff, Rugby, Codi Pwysa, F1.
Prif lwyddiannau ym myd Chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
- Ennill tarian chwaraewr y flwyddyn a Chwaraewr y chwarelwyr Pêl Droed.
- 5ed Person cyntaf i nofio mewn dull Pili pala yn Gymru.
- Enillydd Ras 5k Gŵyl Bontnewydd.
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon: Aaron Ramsey
Nod/Targed personol ar gyfer y flwyddyn o ran chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
- Taro lefelau ffitrwydd uchaf a phosibl.
- Rhedeg Hanner Marathon.
Alun Jones
Swydd : Rheolwr Uned Partneriaethau
Hoff chwaraeon:Pêl Droed a Rygbi
Prif lwyddiannau ym myd Chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
Chwarae i Dîm Pêl-droed dan 18 Ysgolion Cymru (Ychydig amser yn ôl!!)
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon: Seve Ballesteros / Paolo Maldini / James Roby
Nod/Targed personol ar gyfer y flwyddyn o ran chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
- Ail ddechrau 5 bob ochr
- Mynd i wylio mwy o gemau
- Rhedeg yn hirach nag yr wyf wedi bod yn ei wneud
Elen Pugh
Swydd : Swyddog Partneriaethau
Hoff chwaraeon: Pêl Droed
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon: Sir Alex Ferguson
Tomos Cai Lloyd
Swydd : Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Gwynedd
Hoff chwaraeon: Hwylio, Sgio, Rygbi
Prif lwyddiannau ym myd Chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
Wedi ceufadu sawl afon adnabyddus yng Nghymru a’r Alpau
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon: Mark Cavendish / Sir Alex Ferguson
Nod/Targed personol ar gyfer y flwyddyn o ran chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
Ceisio gwneud mwy a mwynhau pob cyfle dwi’n gael i gymryd
rhan mewn gweithgareddau.
Lisa Elen Hughes
Swydd : Cymunedol
Hoff chwaraeon: Pêl Rwyd / Pêl Droed / Athletau
Prif lwyddiannau ym myd Chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
Cap Cymru mewn gymnasteg a Cholegau Pêl Rwyd
Arwr/arwres yn y byd chwaraeon:Sir Alex Furgeson
Nod/Targed personol ar gyfer y flwyddyn o ran chwaraeon/gweithgaredd corfforol:
Wedi curo’r cynghrair “North West Wales Netball Division 1” blwyddyn yma. Felly parhau i fod yn “undefeted” a churo’r cynghrair eto eleni.
Cwbwlhau cymhwyster “ Level 5 in Leisure and Managment”
Hefo’r trosglwyddiad ac i gryfhau eu gallu i gyrraedd gwahanol grwpiau o’r gymuned, mae’r cwmni’n adeiladau ar ei Is-brand “Actif am Oes” sydd yn targedu pobl hyn neu rhai sydd yn chwilio am gyfleoedd ymarfer dwysedd is, gyda chyfres o is-brandiau newydd. Fydd hyn yn gwneud hi’n haws i bobl cael hyd i weithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw .e.e. rhieni babis a phlant ifanc iawn, plant a phobl ifanc a genethod a merched.
Mae’r cwmni yn gofyn i drigolion cadw llygaid allan am y logos lliwgar newydd!