Ymarfer Gatref – Cyhyrau Craidd

Gwynedd Council

Cyhyrau Craidd – Sesiwn Ymarfer Adref

Sesiwn cyhyrau craidd efo Guto. Yn y sesiwn yma byddwn yn gwneud saith gweithgaredd craidd gwahanol a bydd tri opsiwn ar gael yn dibynnu ar eich gallu.

Maen bwysig iawn ein bod yn gweithio y cyhyrau yma gan y rhain ydy sylfaen ein corff.

Opsiwn un: gweithio am 20 eiliad
Opsiwn dau: gweithio am 35 eiliad
Opsiwn tri: gweithio am 50 eiliad

Mae fyny i chi yn llwyr sawl gwaith byddwch yn gwneud y cylched (circuit); anelu am 2 i ddechreuwyr a symud ymlaen i 5 i rhai fwy profiadol.

Y saith gweithgaredd
1. Planc
2. Planc ochr/side plank
3. Codi coesau/leg raises
4. Creinsio yn ol/reverse crunch
5. Sychwr ffenest/wipers
6. Codi cefn/back extension
7. Creinsio coesau/crunch kicks

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt