6 Ffordd Syml I Wella Eich Lles
“Mi neith les i chdi”
‘Dw i’n siŵr bod pawb wedi clywed rhywun yn dweud hyn wrthyn nhw o’r blaen. Ond beth mae’r ‘lles’ yna’n feddwl?
Mae ‘lles[ol]’ yn cael ei ddiffinio fel rhywbeth mewn sy’n gwneud rhywun i deimlo’n gyfforddus, hapus neu iachus mewn bywyd.
Mae gwella ‘lles’ yn rhywbeth mae pawb angen o ddydd i ddydd, a hynny drwy ddarganfod sut mae unigolyn yn gwella lles eu hunain mewn ffyrdd gwahanol, boed yn gwella lles emosiynol, cymdeithasol, yr amgylchedd o’ch cwmpas, eu gyrfa neu iechyd.
Dyma 6 ffordd o wella eich lles chi!
1. Cysylltu
Mae’n bwysig i bawb gysylltu gyda phobl. Eich amgylchynu gyda phobl sydd yn gwneud i chi deimlo’n hapus ac yn gyfforddus yn eu cwmni. Er gall hyn fod yn anodd ar hyn o bryd, mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud hyn! Ewch am dro gyda pherson drwy gadw pellter o 2m, codi’r ffôn neu siarad dros y we! Mae’n gwneud byd o les clywed llais gwahanol.
2. Cadw’n Actif
Cofiwch gadw’n actif! Mae cadw’r corff yn actif yn cadw’r meddwl y actif. Ewch allan am dro, ewch allan i’r ardd neu hyd yn oed ymarfer y corff o’r cartref! Lle bynnag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus. Cofiwch am ddosbarthiadau ffitrwydd byw Byw’n Iach dros zoom sydd ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener gydag amrywiaeth o ymarferion o ddwysedd uchel, canolig ac isel. Rydym yma er eich lles chi. Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth heddiw:
3. Bod yn ystyriol
Rhaid bod yn ystyriol drwy roi chi eich hun yn gyntaf. Peidiwch â gwthio eich hunan ormod. Gofalwch am eich hunain a byddwch yn garedig gyda’ch hunain. Meddyliwch…
Ydych chi eisiau bod yn y lle yma?
Ydy hyn yn eich gwneud chi’n hapus?
Yw hyn yn bwysig i chi?
4. Dysgu
Mae’n bwysig i ni ddysgu pethau newydd, dyma sut ‘da ni’n darganfod pethau newydd. Dyma sut rydym ni’n datblygu ag yn tyfu, codi hyder ac adeiladu pwrpas i ni ein hunain. Mae’n bwysig i chi ddysgu eich hun hefyd, trwy fethu a trwy lwyddo.
5. Rhoi i eraill
Mae rhoi i eraill yn gwneud i chi deimlo yn gadarnhaol. Mae’n rhoi teimlad o bwrpas a bod gwerth i’r hyn ‘da chi’n ei wneud. Drwy roi, mae’n adeiladu perthynas gydag eraill a’r hyn o’ch cwmpas.
6. Cwsg
Mae digon o gwsg yn bwysig i bawb. Ond cofiwch, mae nifer o oriau o gwsg yn amrywio gyda oedrannau gwahanol.
Gall ddigon o gwsg wneud lles i chi drwy lleihau straen ar y corff a’r ymennydd, gwella eich gallu o ganolbwyntio. Mae’r pethau yma yn arwain at ddatblygu lles eich hunain.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddatblygu eich patrwm cwsg, dilynwch y linc yma:
Yn ôl i blog