Seremoni Wobrwyo Chwaraeon Gwynedd
Ar nos Fawrth 6ed o Ragfyr 2022, cafodd noson arbennig ei gynnal yn Galeri Caernarfon gan Byw’n Iach er mwyn dathlu llwyddiannau trigolion Gwynedd mewn amrywiaeth o feysydd chwaraeon.
Roedd llu o wobrwyau ar gyfer unigolion haeddiannol iawn yn cael ei gyflwyno gan dîm Byw’n Iach ac roedd ein gwestai Morgan Jones yn cynnal y noson yn berffaith!
Diolch mawr i ddawnswyr talentog Clwb Dawnsio Bangor am ein diddanu yn ystod yr egwyl.
Dyma be oedd gan Alun Jones, ein Rheolwr Partneriaethau ei ddweud am y noson,
Noson wych yn rhoi cyfle i dynnu sylw i nid yn unig yr holl dalent sydd gennym oddi fewn y Sir, ond hefyd cydnabod a chlywed am yr holl waith caled sydd yn cael ei gyflawni gan lu o bobl ar draws y Sir yn wythnosol er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu cyfranogi yn eu camp ddewisol. Mae’r noson wedi dangos pa mor bwysig ydi ymgysylltu a’r sector gymunedol ac edrychwn ymlaen fel cwmni Byw’n iach i gryfhau’r cysylltiadau yn bellach a chydweithio i ehangu ar y ddarpariaeth i drigolion Gwynedd. Edrychwn ymlaen at Seremoni 2023.
Ac os yr hoffwch weld y lluniau swyddogol sydd wedi cael ei dynnu drwy gydol y noson, ewch draw i wefan Sport Pictures Cymru.
Dyma’r enillwyr o’r holl gatgoriau cafodd ei gyflwyno ar y noson:
- 🏆Geneth Iau y Flwyddyn: Cara Scott
- 🏆Bachgen Iau y Flwyddyn: Huw Davies: Huw Davies
- 🏆Gwobr Llwyddiant Personol: Elan Williams
- 🏆Clwb Hyn y Flwyddyn: Clwb Hwylio Y Felinheli
- 🏆Clwb Iau y Flwyddyn: Clwb Bangor Gym
- 🏆Clwb INSPORT y Flwyddyn: Clwb Pel Fasged Cadair Olwyn Caernarfon Celts
- 🏆Tim Iau y Flwyddyn: Tim pel droed dan 11 Ysgolion Gwynedd
- 🏆Tim Iau y Flwyddyn: Tim pel droed dan 14 Ysgol Syr Hugh Owen
- 🏆Tim Iau y Flwyddyn: Tim rygbi Merched dan 16 Godre’r Berwyn
- 🏆Tim Hyn y Flwyddyn: Tim Merched Rygbi Caernarfon
- 🏆Partneriaeth y Flwyddyn: Prosiect Cyngrhair Boccia
- 🏆Hyfforddwr/Rheolwr y Flwyddyn: Lynda Bennett
- 🏆Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Manon Lloyd Williams
- 🏆Person Hyn y Flwyddyn: Medi Harris
- 🏆Gwasanaeth i Chwaraeon: Arwel Jones
Llongyfarchiadau mawr i’r holl enwebiadau ar enillwyr i gyd!
Yn ôl i blog