Bwyd Bendigedig Port yn cydweithio i ddatblygu Gardd Byw’n Iach Glaslyn

Gwynedd Council

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Bwyd Bendigedig Port wedi derbyn £49,999 gan grantiau cymunedol Treth Gwaredu Tirlenwi (LDT) ar gyfer eu prosiect i adeiladu nodweddion diddorol o ddeunydd gwastraff a dechrau’r ‘Coridor Bwyd’ ym Mhorthmadog.

Dyluniwyd y prosiect gan Lizzie Wynn, o Off The Wall Wales, yn ystod ei chyfnod ymchwil yn y Ganolfan Technoleg Amgen (MSc mewn Cynaliadwyedd ac Addasu yn yr Amgylchedd Adeiledig), lle mae hi bellach yn dysgu cyrsiau ac yn darlithio, fel cyfrannwr allanol.

Y cynllun yw creu tŷ gwydr wedi’i ynysu gan bridd (Walipini) a sied/lloches (o ddeunyddiau sydd fel arfer yn mynd i dirlenwi), cyfleuster compostio a gwlâu wedi’u codi.

Bydd hyn yn darparu mwy o gapasiti i’r gymuned leol dyfu bwyd, man tyfu drwy gydol y flwyddyn, lloches/storfa a chyfleoedd dysgu am ddim ‘diogelwch bwyd’ yn ein hamgylchedd sy’n newid.

Mae Bwyd Bendigedig Port wedi’i leoli ger Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog ac mae wedi’i gynnal a’i ychwanegu ato, gyda help gan wirfoddolwyr a rhoddion yn unig, ers 2016.

Bydd Porthmadog a’r ardal ehangach yn elwa o’r prosiect, gan ddangos i gynulleidfa eang sut gellir defnyddio deunyddiau gwastraff, pridd ac Ecobrics i adeiladu adeiladau cadarn a gwlâu wedi’u codi.

Byddant yn strwythurau unigryw a deniadol a fydd yn hyrwyddo gwytnwch ecosystemau ac yn denu pobl o’r gymuned ehangach.

Mae prosiect Bwyd Bendigedig Port yn gobeithio cynnwys bob oed ac maent yn bwriadu rhoi gwybod i ysgolion, busnesau a grwpiau yn ardal Porthmadog ynghylch y prosiect gyda chyfres o gyflwyniadau.

Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Byw’n Iach, Grŵp Cynefin a’r Cynllun Cyfeirio i Ymarfer Cenedlaethol.

Dywed Amanda Davies (Byw’n Iach), “Mae Byw’n Iach Cyf yn ddiolchgar am waith y grŵp lleol a’r gwirfoddolwyr wrth ddenu’r grant hwn ac i LDT am fuddsoddi yn eu gweledigaeth. Mae lleoliad y prosiect yn ein safle yn Glaslyn yn ein helpu i ddarparu gweithgareddau llesiant ychwanegol i’n Cleientiaid Cyfeirio i Ymarfer ac ar yr un pryd rydym yn creu man deniadol a chynhyrchiol i’n holl gwsmeriaid wrth iddynt gyrraedd y Ganolfan. Gobeithiwn y gellir defnyddio’r dyluniad arloesol fel enghraifft ar gyfer cymunedau eraill yn nhermau ail-ddefnyddio plastigion.”

Mae’r grwp yn codi arian ar gyfer planhigion ac eitemau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y grant a gellir cyfrannu drwy Localgiving.org (https://localgiving.org/charity/edible)

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i facebook.com/ediblemadog neu ebostiwch OffTheWallWales@gmail.com

Yn ôl i blog
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt