Byw’n Iach yn cael ei Lansio yng Ngwynedd
Mae newid cyffrous wedi digwydd yng Nghanolfannau Hamdden Gwynedd. O Ebrill 1af, bydd y cyfleusterau hamdden yng Ngwynedd yn cael eu gweithredu a’u rhedeg gan Byw’n Iach Cyf.
Mae Byw’n Iach.cyf yn gwmni cyfyngedig trwy warant o dan reolaeth Cyngor Gwynedd. Mae Byw’n Iach yn gweithredu cytundeb ar ran Cyngor Gwynedd i reoli yr 11 Canolfan Hamdden yn y sir a darparu ystod o wasanaethau Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd.
Mae Byw yn Iach yn cyflogi dros 250 o staff yn lleol i ddarparu’r gwasanaeth hwn a bydd ein canolfannau yn parhau i fod yn rhan fawr o’r gymuned leol.
Pwrpas Byw’n Iach yw:
“Cynnig gwasanaethau hamdden a ffitrwydd cynaliadwy o’r ansawdd uchaf i’n cymunedau, er mwyn gwella iechyd, lles , ffitrwydd a sgiliau pawb.”
Ein gweledigaeth yw:
“Pob trigolyn yn gwsmer- pob teulu’n gwella eu hiechyd a lles- pob Cymuned yn elwa”
Yn ôl i blog