‘Leni rydym yn falch o gyd-weithio fel prif bartneriaid i Ymchwil Cancr ar gyfer Ras am Fywyd Caernarfon sydd yn cael ei gynnal ar y 17eg o Fai.
Mae 100% o’r arian sydd yn cael ei gasglu yn mynd at Ymchwil Cancr.
Nid ennill y ras sydd yn bwysig ond cymryd rhan a dyfal barhau! Nid oes rhaid bod yn ffit, nac yn athletwr o fri! Gallwch gerdded, neidio, neu hyd yn oed cerdded ar eich dwylo er mwyn cwblhau y ras!
Yr oll sydd angen i’w wneud yw sôn wrth eich ffrindiau, cyd-weithwyr a’r teulu oll i, a chasglu arian i frwydro yn erbyn cancr!
Gallwch chi wneud gwahaniaeth.
Drwy ddefnyddio taleb ddigidol Byw’n Iach, gallwch dderbyn 30% o ostyngiad wrth gofrestru.
Cofiwch ddefnyddio RFLCAE20 wrth gofrestru! Mae mor hawdd a hynny!
Cofrestrwch eich lle heddiw!
I sicrhau eich bod yn barod ar y ras, rydym am roi help llaw i chi. Ymunwch gyda ni yn ein her soffa i 5k. Bydd ar gael yn ein canolfannau Byw’n Iach ar draws Gwynedd. Am fwy o wybodaeth am y sesiynau yn eich canolfan leol chi, dilynwch y linc isod.
Dewch draw a rhedwch gyda ni!