Crynodeb Gweithredol

Gwynedd Council

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Substance wedi bod yn gweithio gyda Byw’n Iach i helpu datblygu strategaeth effaith gymdeithasol y sefydliad a gwerthuso ei  SROI (Social Return on Investment) o fewn cyfnod adrodd  o’r 1af Ebrill 2022 – 31ain Mawrth 2023.  Mae SROI yn fath o ddadansoddiad o fudd y gost sy’n ceisio meintioli’r newid cymdeithasol sy’n cael ei greu gan raglen, polisi, buddsoddiad neu endid. Mae’n fath o ddadansoddiad defnyddiol ar gyfer sefydliadau sy’n ceisio creu newidiadau cymdeithasol positif sy’n gallu bod yn anodd eu mesur.

Yn dilyn ymarfer mapio rhanddeiliaid llwyddiannus, cyflwynodd Byw’n Iach a Substance ddull graddol i’r prosiect gan ganolbwyntio’n gyntaf ar asesu hyfywedd cymhwyso’r fethodoleg SROI sy’n cael ei chydnabod yn eang yng nghyd-destun y ganolfan hamdden. O ganlyniad i hyn, cafodd ystod o ganlyniadau craidd a perthnasol ar draws meysydd cymdeithasol, economeg ac iechyd gwahanol eu cydnabod ac o fewn y cyfnod prosiect dilynol, cafodd y prisiadau perthnasol eu cymhwyso i’r rhain.

Er mwyn cyflawni’r prisiadau hyn, defnyddiodd Substance gyfuniad o ddulliau ffurfiannol a chrynodol. O boblogaeth graidd y cyfranogwyr, o ystyried natur ôl-weithredol yr asesiad ac absenoldebau penodol yn y canlyniadau data, roedd y dull yn ffurfiannol yn bennaf neu wedi’i selio ar amcangyfrif neu ‘rhagamcan’ o effeithiau tebygol wedi’i selio ar dystiolaeth ehangach sy’n ymwneud ag ymarfer corff neu gymryd rhan mewn chwaraeon.

O’r data sydd ar gael, nid yw’n bosib creu prisiadau yn seiliedig ar:

  • Effaith rhaglenni cyfranogiad wedi’u darparu gan Ganolfannau Hamdden Byw’n Iach.
  • Effaith economaidd sy’n ymwneud â buddsoddiad adeiladu cyfleuster a gwerth defnydd.
  • Effaith rhaglenni sydd wedi’u targedu sy’n cael eu darparu gan Ganolfannau Hamdden Byw’n Iach.
  • Cyfleoedd gwirfoddoli trwy waith parhaus Byw’n Iach a phartneriaid

Ar draws yr 11 Canolfan Hamdden, cafodd 13 ‘rhaglen cyfranogiad’ eu hadnabod a darparodd prisiad cyffredinol o  £21.44m, mae’r ffigwr hwn yn deillio trwy dri chategori yn cynnwys ‘Effaith economaidd budd-daliadau cymdeithasol, cyfraniadau uniongyrchol i’r economi ac arbedion gofal iechyd o gyfranogiad’.

Cafodd £3.57m o fudd economaidd pellach hefyd ei glustnodi yn uniongyrchol i gyfleusterau Byw’n Iach, trwy fuddsoddiad adeiladol a chyfuniad o werth defnydd ar draws yr 11 canolfan. Datblygwyd y gwerth defnydd trwy wybodaeth am ffioedd hurio oedd ar gael yn barod trwy dîm a gwefan Byw’n Iach.

Cafodd partneriaethau a’u rhaglenni wedi’i selio ar ganlyniadau neu wedi’u targedu hefyd eu mesur o fewn yr astudiaeth, sy’n rhoi gwerth o  £206k, yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli yn cyfrannu cyfanswm o  £2.83m.

I gyd, mae’r gwerth cymdeithasol a gynhyrchwyd gan Byw’n Iach yn cyfateb i £28.04m, gyda chafeat sy’n nodi drwy welliannau casglu data parhaus, ei bod yn anochel y bydd y ffigyrau yn cynyddu.

Yn ôl i blog
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt