Diweddariad Byw’n Iach- Covid-19 – 19 Mawrth 2020
Yn sgil datblygiadau diweddar ac mewn ymgynghoriad â Chyngor Gwynedd, rydym wedi penderfynu i gau canolfannau Byw’n Iach ledled Gwynedd, ar gyfer yr holl weithgareddau chwaraeon, hamdden a ffitrwydd, o 5pm (17:00) ddydd Iau 19/03, hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.
Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid, staff a phawb sy’n defnyddio’r canolfannau o bwys mawr i ni ac rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn y mater hwn.
Bydd aelodaeth y cwsmeriaid hynny sydd ag aelodaeth Debyd Uniongyrchol misol yn cael ei rewi’n awtomatig o heddiw ymlaen. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Ni chymerir taliad ar 1 Ebrill. Bydd eich aelodaeth yn cael ei hail-gychwyn pan fydd y canolfannau’n ailagor a gwasanaethau ar gael eto.
I’r rhai sydd â thocynnau blynyddol, rydym am ychwanegu amser at eich aelodaeth pan fyddwn yn ailagor, i wneud iawn am yr amser y mae’r ganolfan ar gau.
Mae ein canolfannau hefyd yn cael eu defnyddio gan ystod o sefydliadau partner fel llyfrgelloedd a darparwyr gofal plant. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda’r sefydliadau hynny i sicrhau ein bod yn gallu cynnal mynediad cyhyd ag y mae angen y gwasanaethau hynny. Byddwn yn annog ein partneriaid i ddiweddaru eu defnyddwyr yn uniongyrchol.
Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y sefyllfa trwy ein sianelau cyfathrebu arferol.
Cymerwch ofal dros yr wythnosau nesaf a diolch yn fawr am eich amynedd a’ch cefnogaeth.
Byw’n Iach
Yn ôl i blog