Haf o Hwyl!
Mae’r haf wedi cyrraedd o’r diwedd! Ac mae gan Byw’n Iach weithgareddau lu i’n aelodau eleni!
Dywed Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr
“Mae Cwmni Byw’n Iach yn falch iawn o fod yn rhan o ymgyrch cenedlaethol Haf o Hwyl eleni. Rydym yn ymwybodol iawn fod plant a phobl ifanc yng Ngwynedd wedi colli allan ar nifer fawr o gyfleoedd i gadw’n heini, dysgu sgiliau a chymdeithasu efo ffrindiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae tystiolaeth glir o ran yr effaith negyddol sydd wedi bod ar iechyd corfforol a meddyliol sawl un o’n pobl ifanc. Mae’r rhaglen eleni yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau i bob oedran gyda’r ffocws am fwynhau a chael hwyl efo ffrindiau mewn amgylchedd diogel.
Mi fydd rhan o’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i adeiladau hyder yn y dŵr ar ôl i gymaint o wersi nofio cael eu colli. Mae trefniadau Covid diogel ar waith ar bob un o’n safleoedd i ddiogelu ein cwsmeriaid a’n staff profiadol wrth law i gadw pawb yn saff.”
Dyma’r gweithgareddau sydd ar gael:
- Sesiynau Beicio Balans 3-4 oed
- Gwersi Nofio Swigod 0-3 oed
- Aml Chwaraeon Blwyddyn 1-3 (6-8 oed)
- Aml Chwaraeon Blwyddyn 4-6 (9-11 oed)
- Sesiwn Nofio am Ddim Pobl Ifanc 8 – 16 oed
- Sesiwn Inflatables yn y Pwll 8-11 oed
- Sesiynau Nofio a Phlymio Dwys +6 oed
- Sesiynau Nofio Cyhoeddus
- Ffitrwydd Hwyl Pobl Ifanc 11-16 oed
- Academi Ffitrwydd Pobl Ifanc 11-16 oed
- Sesiwn Galw Heibio Pobl Ifanc 11-16 oed
- Sesiwn Nofio am Ddim Pobl Ifanc 8-16 oed
Mae rhan fwyaf helaeth o’r gweithgareddau ar gael am ddim yn ein safleoedd ar draws Gwynedd gyda sesiynau yn amrywio o ganolfan i ganolfan!
Dyma linc i chi allu gweld mwy am y gweithgareddau rydym yn ei cynnal yr Haf yma:
Archebu:
Dilynwch y cyfarwyddiadau yma er mwyn archebu lle dros eich plentyn / plant i sesiynau Haf o Hwyl: Cyfarwyddiadau
Felly dewch i gael Haf o Hwyl!