Mae Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli yn falch o guro gwobr Gymunedol y Faner Werdd 2020/21 unwaith eto eleni.
Dyma wobr i ddathlu llwyddiant gardd neu barc sydd o ansawdd, i longyfarch ymroddiad unigolion i wirfoddoli, ac i wneud hynny drwy barchu’r amgylchedd.
Dyma oedd gan Terry Williams, cydlynydd Cyfeirio i Ymarfer sydd wedi bod yn rhan fawr o yrru’r prosiect yn ei flaen yn Byw’n Iach Dwyfor.
“Mae’r flwyddyn yma wedi bod yn un heriol dros ben oherwydd y pandemic. Ond oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein gwirfoddolwyr trwy’r flwyddyn rydym wedi gallu sicrhau y safon uchel a fynnir gan Wobr y Faner Werdd unwaith eto eleni.”
Mae 127 o gymunedau wedi cyrraedd y safon a derbyn gwobr gymunedol y faner werdd eleni. Gyda Chymru yn parhau i gynnal traean o’r lleoliadau yma! Dyma wobr sydd yn cael ei roi gan elusen Keep Wales Tidy drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywed Lucy Prisk, cydlynydd Y Faner Werdd o fewn elusen Keep Wales Tidy:
“Mae’r pandemig yma wedi dangos pwysigrwydd parciau a gerddi i’n cymunedau. I nifer ohonom, maent wedi bod yn llesol ar gyfer ein hiechyd a lles.
Mae llwyddiant gardd Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli yn ganmoliaeth i wirfoddolwyr sydd wedi cadw safon wych y gerddi o dan amodau anodd eleni. Hoffwn longyfarch a diolch iddynt i gyd am eu ffyddlondeb.
Gweler rhestr lawn o enillwyr yma: