Neges i Gwsmeriaid: Pwll Nofio Arfon – 07 Mehefin 2022
Mae gwaith cynnal a chadw angenrheidiol wedi cynllunio ar gyfer Haf 2022 ym Mhwll Nofio Byw’n Iach Arfon. Mi fydd nenfwd newydd yn cael ei osod dros neuadd y Pwll. Rydym wedi derbyn cadarnhad y bydd angen cau’r Pwll o 20/6/22 er mwyn caniatáu mynediad ar gyfer y contractwyr. Mae’r gwaith yn debygol o gymryd 10 wythnos i gwblhau, ac rydym yn cynllunio i fedru ail agor y pwll erbyn dechrau mis Medi 2022. Bydd union ddyddiad ail agor yn cael ei gyfathrebu’n nes at yr amser.
Plant sydd yn Derbyn Gwersi Nofio
Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd y tymor ar gyfer gwersi nofio cymunedol yn dod i ben rhai wythnosau’n fuan. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleuster. Rydym yn ymwybodol fod cwsmeriaid wedi gwneud taliad trwy Debyd Uniongyrchol ar ddechrau’r mis ond ddim am dderbyn pob gwers sydd yn ddyledus. Mi fydd eich taliadau arferol yn cael eu rhewi ar gyfer mis Gorffennaf ac Awst. Mi fydden ni’n cofnodi’r credyd sydd ar bob cyfrif ar gyfer diwedd Mehefin, ac yn defnyddio i’ch digolledu wrth i ni ail gychwyn eich taliadau ar ôl yr Haf.
Cwsmeriaid Eraill sydd â Phecyn Debyd Uniongyrchol, Tocyn Misol neu Docyn Blwyddyn
Os ydych yn ddefnyddwyr o’r pwll yn bennaf, a bod hi ddim yn ymarferol i chdi defnyddio pwll arall, mae opsiwn i chi rewi eich pecyn Debyd Uniongyrchol tra bydd y Pwll ar gau. Mi fydden ni’n hapus i helpu chi efo hynny. Plîs gyrrwch neges at cyswllt@bywniach.cymru efo manylion eich aelodaeth ac mi fydd un o’r Tîm Busnes yn eich cynorthwyo. Fel arall mi fedrwch chi hefyd trafod y mater gyda staff yn y Dderbynfa.
Ysgolion a Chlybiau
Mae ein tîm wedi bod yn cysylltu efo Ysgolion a Chlybiau’n uniongyrchol. Mae trefniadau wedi gwneud i nofwyr sydd yn paratoi at gystadlaethau ymarfer ym Mhwll Bangor dros dro. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi, plîs holwch eich clwb neu cysylltwch â’r ganolfan o ran trefniadau i ysgolion.
Ymddiheuriadau am yr anghyfleuster mae hyn yn achosi. Mae’r gwaith yn angenrheidiol ac am wella’r profiad o ddefnyddio’r pwll yn y dyfodol. Cofiwch fod croeso cynnes i gwsmeriaid Arfon defnyddio pyllau eraill Byw’n Iach dros yr Haf. Mae rhaglenni Bangor, Glaslyn a chanolfannau eraill ar gael ar ein gwefan www.bywniach,cymru Rydym yn edrych ymlaen ar groesawu chi nol i’r dŵr mor fuan â phosib.
Yn ôl i blog