Bydd gostyngiad yn y grant gan Chwaraeon Cymru yn golygu newidiadau yn y sesiynau nofio am ddim i blant a phobl dros 60 oed fydd yn cael eu cynnig ym mhyllau nofio Gwynedd.
Yn dilyn adolygiad annibynnol o’r Fenter Nofio Am Ddim, mae Chwaraeon Cymru wedi rhoi rhybudd i Gyngor Gwynedd a Byw’n Iach.cyf o newid i’r cynllun grant sydd ar hyn o bryd yn ariannu Nofio Am Ddim ar gyfer pobl ifanc a rhai dros 60 oed. Mae Cyngor Gwynedd yn derbyn y grant ac yn ei ddosbarthu i’r saith pwll sydd o dan reolaeth Cwmni Byw’n Iach.cyf a Phwll Nofio Harlech.
Mi fydd y gyllideb a dderbynnir gan Chwaraeon Cymru yn gostwng o 50% o fis Hydref 2019, a bydd newidiadau i’r amodau o ran sut y gall cynghorau ar draws Cymru ddefnyddio’r grant.
Mewn ymateb, mae Cyngor Gwynedd a Byw’n Iach.cyf yn cydweithio gyda Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru i ddatblygu cynnig fydd yn cwrdd â gofynion newydd Llywodraeth Cymru, fydd yn fforddiadwy yng ngoleuni’r lleihad sylweddol yn y gyllideb ac a fydd hefyd yn cwrdd ag anghenion trigolion Gwynedd. Bydd y sesiynau Nofio Am Ddim presennol yn parhau tan 1 Hydref 2019.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas ar ran Cyngor Gwynedd:
“Yn naturiol, mae’n siomedig fod y grant sy’n cyllido nofio am ddim yn cael ei haneru, ond mae gwaith yn digwydd i sicrhau’r gwerth gorau posib o’r arian sydd ar gael i ni.
Yng ngoleuni’r lleihad yn y grant a’r newid pwyslais yng ngofynion Chwaraeon Cymru, rydym wedi sicrhau mai newid bach iawn fydd o ran y sesiynau i blant a phobl ifanc.
Ond yn anffodus, mae’n anorfod y bydd lleihad sylweddol yn y sesiynau nofio am ddim fydd ar gael ar gyfer pobl dros 60 oed. Ar sail y toriad yn y grant a’r amodau newydd, un sesiwn nofio am ddim yr wythnos y bydd modd ei gynnig ymhob pwll o fis Hydref ymlaen.
Yn fwy cadarnhaol, bydd y sesiynau am ddim i bobl hŷn yn parhau yn ddi-dor trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cyfnodau gwyliau ysgol – a hynny am y tro cyntaf.
Rydym hefyd yn gobeithio cydweithio gyda phartneriaid ac elusennau i gynnig sesiynau Nofio am Ddim fydd wedi eu targedu at grwpiau penodol o bobl hŷn sydd yn wynebu’r heriau mwyaf megis pobl hŷn anabl a rhai sy’n byw â chyflyrau iechyd penodol. Os bydd cyllid yn caniatáu, rydym hefyd yn gobeithio medru cynnig Cyrsiau o wersi Nofio am ddim ar gyfer oedolion sydd yn ddechreuwyr.”
Dywedodd Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach.cyf:
“Rydym yn gwerthfawrogi ein cwsmeriaid yn fawr ac yn deall bod nofio am ddim wedi galluogi i rai ohonynt ddefnyddio gwasanaeth na fyddai wedi bod ar gael iddynt o’r blaen. Rydym wedi gweithio i leihau’r effaith ar ddefnyddwyr presennol trwy ymgynghori o ran y dewis o amseroedd ar gyfer y sesiynau nofio am ddim.
Cynigwyd opsiynau amrywiol o ran amseriad sesiwn Nofio am ddim 60 + ym mhob pwll ac mae’r rhaglen newydd wedi ei gynllunio ar sail barn ein defnyddwyr.
Mi fydd ein staff hefyd ar gael i egluro pa opsiynau fydd ar gael i bobl hŷn allu parhau i ddefnyddio ein pyllau nofio ac i wneud defnydd gorau o’r prisiau gostyngedig sydd ar gael iddynt ynghyd â’r cynllun aelodaeth a phecynnau Debyd Uniongyrchol.”
Dyma rhestr o’r sesiynau Nofio Am Ddim wythnosol fydd ar gael ar gyfer trigolion dros 60 oed o 1af Hydref 2019 ymlaen:
Byw’n Iach Arfon, Caernarfon | Dydd Mercher: 12:00 – 13:00 |
Byw’n Iach Bangor | Dydd Gwener: 11.30 – 12.30 |
Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn | Dydd Gwener: 11:00 – 12:00 |
Byw’n Iach Bro Ffestiniog | Dydd Mawrth: 11:00-12:00 |
Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli | Dydd Mercher: 12:00-13:00 |
Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog | Dydd Llun: 09.00-10.00 |
Byw’n Iach Penllyn, Bala | Dydd Mawrth: 10.00-11.00 |
Mae’r amserlen nofio llawn i’w gweld ar wefan yma, ac yn y Canolfannau perthnasol.
Os oes gan aelod o’r cyhoedd unrhyw ymholiadau pellach am y newid i’r cynllun Nofio Am Ddim, mae croeso i chi gysylltu gyda Swyddog Datblygu Nofio Byw’n Iach, Dyfed Davies dyfedglyndavies@bywniach.cymru / 01286 679471.
Yn ôl i blog