Prentisiaeth Hamdden a Chwaraeon Byw’n Iach- Ymgeisiwch Rŵan!

Gwynedd Council

Prentisiaeth Hamdden a Chwaraeon Byw’n Iach- Ymgeisiwch Rŵan!

Newydd orffen yn yr ysgol neu coleg?

Trio penderfynu beth i wneud nesaf?

Diddordeb mawr mewn chwaraeon ac annog eraill i gadw’n iach?

Mae Byw’n Iach yn cydweithio gydag Urdd Gobaith Cymru i gynnig sawl gyfle Prentis newydd sbon!

Mi fydd y Brentisiaeth yn gyfle delfrydol i weithio, dysgu a datblygu eich gyrfa o fewn cwmni Byw’n Iach. Byddwch yn aelod o Dîm Canolfan Hamdden yn cyflawni amrywiaeth o gyfrifoldebau  fel Cymhorthydd Canolfan, Athro Nofio, Gweithio ar ochr Pwll  a Hyfforddwr Chwaraeon a Ffitrwydd. Bydd y rolau yn dibynnu ar ba gymwysterau yr ydych wedi’u hennill yn ogystal ag anghenion y ganolfan.

Fydd y Prentisiaethau’n cychwyn ar 24 Hydref 2022 ac yn parhau am 15 mis.

Mi fyddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos gyda’r angen i weithio oriau hyblyg yn cynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau. Mi fydd angen i chi treulio amser ychwanegol yn cwblhau gwaith

Mae pob aelod o staff yn cael defnydd o gyfleusterau Byw’n Iach yn rhad ac am ddim tu allan i oriau gwaith.

Fydd y cymwysterau’n cynnwys NVQ Lefel 2 mewn Arwain Gweithgareddau, Cymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol , Athro Nofio Lefel 1 , Cymorth Cyntaf, sgiliau hanfodol,  ac opsiwn i rai cwblhau cymhwyster Hyfforddi Ffitrwydd. Mi fydd y tal yn seiliedig ar yr isafswm cenedlaethol ar gyfer Prentisiaethau, ar gyfer eich oedran.

Fydd angen fod yn 16oed + ac yn medru gweithio oriau hyblyg yn cynnwys penwythnosau a gyda’r nos. Rhaid bod yn angerddol dros annog eraill i gadw’n heini ac yn medru siarad Cymraeg.

I weithio yn ein canolfannau gwlyb, bydd angen i chi gwrdd â safonau nofio NPLQ – sef Nofio 50m mewn llai nag 1 munud / Nofio 100m yn barhaus ar eich blaen yna 100m ar eich cefn / Troedio dŵr mewn dŵr dwfn am fwy na 30 eiliad / Plymio o’r wyneb i ran ddyfnaf y pwll / Dringo allan o’r pwll heb gymorth.

Mae’n fwriad cynnal cyfle Prentis yn y lle cyntaf yn y  canolfannau canlynol: Byw’n Iach Arfon, Bangor, Dwyfor, Glaslyn & Bro Ffestiniog (lleoliad dros 2 ganolfan), Glan Wnion a Pafiliwn (lleoliad dros 2 ganolfan), Bro Dysynni.

Rhaid cwblhau ffurflen cais trwy wefan Cyngor Gwynedd erbyn 06/10/2022 – Dilynwch y linc i swyddi isod:

Bydd angen fod ar gael trwy’r dydd ar 14/10/2022 i fynychu cyfweliadau ac i gwblhau prawf nofio ym Mhorthmadog.

Os hoffwch drefnu sgwrs am y cyfle cyn ymgeisio, plîs gyrrwch neges at cyswllt@bywniach.cymru gyda eich manylion cyswllt ac mi wnawn ni drefnu i rywun cysylltu nôl efo chi.

Yn ôl i blog
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt