Eleni, cyhoeddwyd enillwyr Gwobr y Faner Werdd gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dyma wobr sydd yn cael ei roi i barc neu i fan gwyrdd o ansawdd.
Mae 221 o barciau a mannau gwyrdd wedi bod o safon uchel eleni, ac felly yn gystadleuaeth anodd ar gyfer ceisio ennill gwobr flaenllaw’r Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Mae ystod eang o safleoedd yn cael ei hystyried ar gyfer y wobr yma, o barciau trefol, ystadau tai, campysau prifysgol a ffermydd.
Ond, eleni, bydd y faner yn hedfan yng Nghanolfan Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli. Cafodd y lleoliad yma’r wobr am ei gydnabyddiaeth o’i gyfleusterau rhagorol a’i hymrwymiad i gyflwyno man gwyrdd o ansawdd gwych.
Dywed Terry Williams, Cydlynydd Cynllunio Cyfeirio i Ymarfer yn Byw’n Iach
“Rydym wrth ein bodd i dderbyn Gwobr y Faner Werdd yma yn Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli. Mae hyn yn dyst i ymdrechion y gwirfoddolwyr, sy’n gweithio’n galed trwy’r flwyddyn i gynnal y safonau uchel a fynnir gan Wobr y Faner Werdd.”
Cyflwynir Gwobr y Faner yng Nghymru gan elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, sydd yn gweithio â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae’r wobr yn cael ei feirniadu gan arbenigwyr yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â’r ymgeisio a’u hasesu yn erbyn maen prawf llym o lendid i gyfranogiad cymunedol llewyrchus.
Dywed Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Cymru’n Daclus:
“Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn parhau i fynd o nerth i nerth yng Nghymru, diolch i ymrwymiad a brwdfrydedd staff a gwirfoddolwyr ar draws y wlad. Ni ellir tanamcangyfrif pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i’n cymunedau, ein hiechyd a’n llesiant, i natur a’r economi. Rydym eisiau annog pawb i archwilio eu hardal leol a gwneud y gorau o’r safleoedd rhagorol ar drothwy’r drws.”
Gellir fynd i wefan Mae Cadwch Gymru’n Daclus i weld rhestr lawn o enillwyr, ac am fwy o wybodaeth ac ymholiadau eraill.
Yn ôl i blog