Rhowch SUBSCRIBE i sianel YouTube Byw’n Iach Cymru

Gwynedd Council

‘Da chi’n gwybod bod 30 miliwn o fideos ffitrwydd ar gael ar YouTube! Ond mae sianel Byw’n Iach yn wahanol, mae ychydig o rywbeth i bawb i gyd mewn un lle, a hynny yn ddwy ieithog!

Mi fuodd 2020 yn ‘wahanol’ i bawb, a mae hi dal i fod yn gyfnod ‘gwahanol’ dydi. Ma’ pawb wedi gorfod addasu ei ffordd o fyw. Un ffordd ‘da ni wedi addasu yn Byw’n Iach yw cyflwyno Ymarferion ffitrwydd adref. Wrth i’n canolfannau hamdden gau ei drysau, ‘fe wnaeth drws arall agor.

Ma’ ganddo ni sianel YouTube yn bwrpasol ar gyfer rhaglenni dosbarthiadau ffitrwydd  o ddwysedd gwahanol er mwyn eich cadw chi’n heini o adref dros y cyfnodau ‘gwahanol’ yma. ‘Da ni’n cyhoeddi amrywiaeth o fideos gwahanol yn rheolaidd er mwyn eich helpu gyda’ch iechyd, ffitrwydd, a lles!

  • Dosbarthiadau Ffitrwydd o ddwysedd isel, canolig ac uchel
  • Sesiynau gyda siaradwyr gwadd
  • Sesiynau Dementia Actif Gwynedd
  • Ymarferion Dyddiol
  • Dosbarthiadau NERS
  • Sesiynau Ymarfer Corff i’r teulu
  • Cyngor er mwyn cadw’r meddwl yn brysur.
  • Recordiau o’n dosbarthiadau ffitrwydd Zoom Byw.

Mae’r holl gynnwys ar ein sianel YouTube Byw’n Iach am ddim i chi ac ar gael unrhyw amser. ‘Da ni eisiau sicrhau ein bod chi’n cadw’r corff a’r meddwl yn actif! Cliciwch subscribe heddiw i fod y cyntaf i glywed am fideos newydd! Cofiwch rannu gyda’ch ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr!

Ewch draw i’r sianel yma.. BYW’N IACH CYMRU

Ymunwch gyda ni i fyw yn iach!

Yn ôl i blog
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt