Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Byw'n Iach Arfon...
Darparwyr cyfleusterau nofio,
chwaraeon a ffitrwydd
yng Nghaernarfon, Gwynedd...
Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Byw'n Iach Arfon...
Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Byw'n Iach Arfon...
Diweddariad Ar Gaeau Synthetig Byw’n Iach Arfon
Rydym yn falch o gyhoeddi fod y cae synthetig hanner maint ar safle Ysgol Syr Hugh Owen bellach wedi ail agor ar gyfer defnydd y gymuned gyda’r nos ac ar benwythnosau. Cafwyd gwaith atgyweirio ei wneud yn sgil achos o fandaliaeth dros yr haf. Mae croeso i unrhyw un sydd yn dymuno defnyddio’r cae tu allan i oriau ysgol, gysylltu â’r ganolfan i logi :01286 676451.
Mae’r prosiect i ddatblygu cae synthetig maint llawn ar safle’r ysgol yn parhau. Rydym yn disgwyl canlyniadau’r cais cynllunio’n fuan a’r ceisiadau grant terfynol yn y gwanwyn.
Yn anffodus mae’r cyrtiau 5 pob ochr yn parhau ar gau. Wrth gychwyn ar brosiect i adnewyddu’r wyneb, daethpwyd o hyd i broblemau draenio sylweddol. Mae hyn yn debygol o arwain at gostau sylweddol uwch ac amserlen hirach ar gyfer cael caniatâd i addasu’r system draenio, cyn bydd hi’n bosib cwblhau’r gwaith. Rydym yn ymddiheuro am yr oedi ond does dim opsiwn heblaw am ddilyn y camau angenrheidiol. Mi wnawn ni ddiweddaru chi eto unwaith bydd amserlen gliriach o ran dyddiad i ail agor.
Yn y cyfamser, mae croeso i gwsmeriaid defnyddio’r cae hanner maint yn Arfon ac os ydych chi'n medru teithio, mae caeau 5 pob ochr yn Byw’n Iach Bangor ar gael ( I logi: 01248 370600), neu gae newydd Llanrug (i logi: 01286 676451) .
Diolch yn fawr am eich amynedd!
Mae’r sesiynnau yma yn gyfle cynnar i blant fwynhau’r dŵr gyda rhiant neu warcheidwad.
Nofio SwigodYstod newydd o ddosbarthiadau ffitrwydd o ddwysedd isel ar gyfer pob oedran ar draws Gwynedd ac ar-lein!
Actif Am OesMae Byw’n Iach yn cynnig amrywiaeth o lefelau gwersi gymnasteg mewn 7 o’n canolfannau, o ddosbarthiadau cychwynwyr: efydd, dosbarth canolradd: arian, dosbarth uwch: aur, hyd at ddosbarth elit, platinwm.
Gwersi GymnastegMae dosbarth seiclo dan do yn un o’r goreuon am losgi calorïau! Bydd y dosbarth beicio grwp dan do yn eich helpu i ddod yn ffit yn gyflym, gan fynd â’ch ffitrwydd i’r lefel nesaf.
Seiclo Dan DoMae Byw’n Iach yn cynnig gwersi nofio ar gyfer pob gallu fel rhan o’n gwaith i annog pawb i fyw’n iach.
Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru ac rydym yn helpu plant i ennill y sgil bywyd hanfodol hon.
Gwersi Nofio PlantMae Byw’n Iach Arfon yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae nofio yn rhan bwysig o be rydym yn cynnig. Efo Pwll Nofio 25metr, Pwll Nofio Bach. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion.
Rydym yn cynnig ystod wych o ddosbarthiadau ffitrwydd hefyd. Pob un wedi'i gynllunio i'ch helpu i gadw'n heini ac yn iach. Mae gennym rywbeth ar gyfer pob gallu, o'r rhai sydd eisiau gwaith dwys, i'r rhai sydd eisiau colli ychydig o bwysau.
Hefyd mae gennym Ystafell Ffitrwydd efo amrywiaeth of peirannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd. Mae ein hardal ffitrwydd swyddogaethol yn cynnwys amrywiaeth eang o offer codi a gorsafoedd codi pwysau Olympaidd.
Cyfeiriad:
Ffordd Bethel,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 1DU
Rhif ffôn:
01286 676451 / 01286 676945
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Arfon, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.