Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Byw'n Iach Arfon...
Seiclo Dan Do yng Nghaernarfon
Mae dosbarth seiclo dan do yn un o’r goreuon am losgi calorïau! Bydd y dosbarth beicio grwp dan do yn eich helpu i ddod yn ffit yn gyflym, gan fynd â’ch ffitrwydd i’r lefel nesaf.
Mae beics llonydd yn rhoi ymarfer corff heb ardrawiad. Mae natur yr ardrawiad isel yn lleihau’r straen ar eich pengliniau a’ch traed, ac yn caniatáu i chi weithio gyda lefel ymwrthedd sy’n gweddu i chi.
Gyda miwsig trance egnïol a hyfforddwyr brwd i’ch cymell i fynd yn gynt, mae beicio dan do yn ffordd ragorol o gael eich siâp yn ôl.
Mae gennym hefyd system hyfforddi Spivvi, sy’n eich galluogi i hyfforddi ar y beiciau y tu allan i’r dosbarthiadau mewn ffordd effeithiol a chynhyrchiol!
Mae seiclo dan do yn cael ei cynnal yn Canolfan Tenis a Ffitrwydd.