Gwersi Nofio Plant

Gwynedd Council
Byw’n Iach Bangor

Gwersi Nofio Plant ym Mangor

Mae Byw’n Iach Bangor yn cynnig gwersi nofio ar gyfer pob gallu fel rhan o’n gwaith i annog pawb i fyw’n iach. Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru.

Mae ein gwersi nofio yn gwneud yn siŵr fod POB plentyn yn dysgu nofio gwaeth be yw eu gallu, na’u hanghenion.

Mae gennym hyfforddwyr gyda chymwysterau ASA lefel uchel ac maent yn mynychu hyfforddiant parhaus. Felly, gallwch fod yn hyderus y bydd eich plentyn yn cael hyfforddiant rhagorol.

Rydym yn cynnig pecyn Debyd Uniongyrchol gwych i ledaenu cost dysgu eich plentyn hefyd.

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach Bangor heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Bangor, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.