Nofio Swigod
Sesiynnau nofio penodol ar gyfer plant 0-3 oed.
Mae’n bwysig cyflwyno babanod a phlant ifanc mewn ffordd ddiogel, gadarnhaol, sydd yn hwyl ac yn ddatblygol i hyrwyddo mwynhad parhaol yn y dŵr am oes.
Mae’r sesiynnau yma yn gyfle cynnar i blant fwynhau’r dŵr gyda rhiant neu warcheidwad.
Bydd y sesiynau yn dechrau’r daith i fagu hyder, sgiliau a derbyn pob math o brofiadau yn y dŵr.
Gwybodaeth am y Sesiwn
Sesiwn – 30 munud
Swesiwn yn addas i – 1 Plentyn 0-3 oed + 1 Rhiant / Gwarcheidwad
Manteision Nofio gyda Babanod a Phlant Ifanc
Mae nofio yn helpu i wella cydsymud a chydbwysedd. Mae tuedd i fabanod sy’n nofio gael synnwyr llawer gwell o gydbwysedd a rheolaeth gorfforol ar dir sych.
- Mae gweithio holl gyhyrau corff baban yn ei helpu i fod yn gryfach wrth dyfu
- Mae nofio yn gwella cryfder calon ac ysgyfaint eich plentyn, ac yn helpu i ddatblygu ei ymennydd, ei amser ymateb a’i gydsymud
- Ni fydd nofio o reidrwydd yn gwneud i’ch baban gysgu trwy’r nos bob nos, ond bydd yr ymarfer corff ychwanegol yn ei helpu i’w wneud yn fwy cysglyd (a gall helpu i ddefnyddio’r egni dros ben sydd gan blant bach!)
- Gall nofio reoleiddio chwant bwyd baban. Mae’r ymarfer corff a’r dŵr cynnes yn helpu i wneud i faban eisiau bwyd, felly sicrhewch fod gennych fyrbryd a diod wedyn
- Gall rhai rhieni yn ddiarwybod drosglwyddo eu petruster eu hunain ynghylch dŵr. Bydd mynd i’r dŵr gyda’ch baban yn ei helpu i dyfu’n hyderus yn y dŵr ac o amgylch dŵr, a gall roi hwb i’ch hyder chi hefyd!
- Mae nofio yn rhoi amser o safon i riant a baban feithrin perthynas. Sgil effaith anffodus o fywydau prysur yw bod llawer o rieni yn dymuno bod ganddynt fwy o amser i’w dreulio gyda’u plant. Yn y pwll, maen nhw’n cael eich sylw llawn!
- Nofio yw un o hoff weithgareddau teulu ein cenedl ac mae llawer o blant yn dweud ei fod eu hoff ran o amser teulu, ac mae’n creu atgofion melys