Nofio

Gwynedd Council
Byw’n Iach Bangor

Nofio – Bangor

Mae nofio yn ymarfer corff gwych a chyflawn. Yn wahanol i chwaraeon eraill, mae nofio yn cynnwys pob grŵp cyhyrau a pob rhan o’r system ynni! Mae dŵr 800 gwaith yn fwy dwys nag aer, ac mae’r ymwrthedd ychwanegol hon yn caniatáu ymarfer o’r holl gorff.

Mae nofio yn gwella hyblygrwydd, symudiad, a chryfder swyddogaethol yn y dŵr. Mae hyn yn arwain at gryfder craidd gwell a sefydlogrwydd symudol ym mhob un o’ch cymalau, yn ogystal â chyhyrau cryfach a sgiliau echddygol gwell.

Mae nofio hefyd yn llosgi nifer fawr o galorïau, ac yn gadw’ch corff yn iachach. Mae nofio yn bersonol, a gall fod mor galed neu mor ysgafn ag y mae ei angen arnoch, sy’n golygu nad ydych chi yn cael eich gwthio yn rhy galed.

Mae nofio yn ymarfer effaith isel, felly os ydych chi’n cael trafferth gydag anafiadau, yn enwedig yn y cymalau, mae darganfod ymarferion effaith isel yn hynod o bwysig.

Mae’n hawdd dechrau gyda Byw’n Iach. Mae nofio yn rhan o’n pecyn Debyd Uniongyrchol Cynhwysol ac mae gennym lawer o sesiynau Nofio Cyhoeddus ar gael i bawb sy’n dymuno mynychu. Rydym hyd yn oed yn rhedeg dosbarthiadau nofio i oedolion ar gyfer y rhai sy’n newydd i nofio.

 

Amserlenni

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach Bangor heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Bangor, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.