Croeso i Byw'n Iach Bro Dysynni, Tywyn

Darparwyr cyfleusterau nofio, plymio,
chwaraeon a ffitrwydd
yn Nhywyn, Canolbarth Cymru...

Chwilio am Weithgaredd...

Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Nhywyn...

Hafan
Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn
Chwilio am Weithgaredd...

Chwiliwch am y gweithgaredd, dosbarth neu chwaraeon rydych chi eisiau gymryd rhan ynddynt yn Nhywyn...

Nofio Swigod

Mae’r sesiynnau yma yn gyfle cynnar i blant fwynhau’r dŵr gyda rhiant neu warcheidwad.

Nofio Swigod
Gwersi Gymnasteg

Mae Byw’n Iach yn cynnig amrywiaeth o lefelau gwersi gymnasteg mewn 7 o’n canolfannau, o ddosbarthiadau cychwynwyr: efydd, dosbarth canolradd: arian, dosbarth uwch: aur, hyd at ddosbarth elit, platinwm.

Gwersi Gymnasteg
Gwersi Nofio Plant

Mae Byw’n Iach yn cynnig gwersi nofio ar gyfer pob gallu fel rhan o’n gwaith i annog pawb i fyw’n iach.

Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru ac rydym yn helpu plant i ennill y sgil bywyd hanfodol hon.

Gwersi Nofio Plant
Seiclo Dan Do

Gyda miwsig trance egnïol a hyfforddwyr brwd i’ch cymell i fynd yn gynt, mae beicio dan do yn ffordd ragorol o gael eich siâp yn ôl.

Ymunwch â'r grŵp cynyddol o feicwyr yma yn Byw'n Iach Bro Dysynni

Seiclo Dan Do
Actif Am Oes

Ystod newydd o ddosbarthiadau ffitrwydd o ddwysedd isel ar gyfer pob oedran ar draws Gwynedd ac ar-lein!

Actif Am Oes
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach Bro Dysynni Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Nhywyn, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.
Cysylltwch

Ynghylch a Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn

Mae Byw’n Iach Bro Dysynni yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.

Mae gennym ystod eang o ddosbarthiadau sy'n addas i bob gallu a lefel ffitrwydd. Rydym yn cynnig gweithgareddau yn y pwll nofio yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd yn ein stiwdio.

Mae ein dosbarthiadau Beicio Dan Do yn boblogaidd iawn ac yn sicrhau y gallwch fwynhau'r hobi yn ystod y misoedd oerach neu eich helpu i fod yn fwy ffit ac iachach.

Hefyd mae gennym Ystafell Ffitrwydd efo amrywiaeth of peirannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd.

Ymweld a'r Ganolfan

Cyfeiriad:
Stryd Fawr,
Tywyn,
Gwynedd
LL36 9AD
Rhif ffôn:
01654 711763

Cysylltwch â tîm Byw'n Iach Bro Dysynni heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Nhywyn, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.