Gwersi Nofio Plant

Gwynedd Council
Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn

Gwersi Nofio Plant yn Nhywyn

Mae Byw’n Iach Bro Dysynni yn cynnig gwersi nofio ar gyfer pob gallu fel rhan o’n gwaith i annog pawb i fyw’n iach. Rydym yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru.

Mae ein gwersi nofio yn gwneud yn siŵr fod POB plentyn yn dysgu nofio gwaeth be yw eu gallu, na’u hanghenion.

Mae gennym hyfforddwyr gyda chymwysterau ASA lefel uchel ac maent yn mynychu hyfforddiant parhaus. Felly, gallwch fod yn hyderus y bydd eich plentyn yn cael hyfforddiant rhagorol.

Rydym yn cynnig pecyn Debyd Uniongyrchol gwych i ledaenu cost dysgu eich plentyn hefyd.

Cysylltwch â tîm Byw'n Iach Bro Dysynni heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Nhywyn, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.