Bwtcamp

Gwynedd Council
Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli

Bwtcamp yn Mhwllehi

Mae’r ymarfer milwraidd hwn yn gymysgedd o ymarferion cardiofasgwlaidd ac ymarferion ymwrthedd (resistance).

Mae’n cyfuno ymarferion sy’n dibynnu ar bwysau’r corff yn unig gydag ymarferion pwysau rhydd.

Bydd yn eich helpu i wella:

  • eich cydbwysedd
  • eich cryfder
  • ewich hyblygrwydd

Mae’r ymarfer yn addas i bob lefel ffitrwydd.

Pan fydd y tywydd yn braf, gellir cynnal y dosbarth hwn ar draeth Pwllheli!

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach Dwyfor heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Nwyfor, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.