Gwersi Sboncen

Gwynedd Council
Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau

Gwersi Sboncen

Sboncen –  Gêm pêl a raced i ddau neu bedwar o chwaraewyr yw sboncen. Mae yn ffordd wych o gael ymarfer cardiofasgwlaidd o fewn sesiwn 40 munud.

Bydd y gwersi yn eich cyflwyno i’r gêm (dechreuwyr), yn helpu i wella techneg, yn datblygu cydsymud gwell ac yn gwella eich gêm gyffredinol.

Pam chware sboncen?

  • Hybu iechyd cardiofasgwlaidd
  • Gwella sgiliau cydlynu
  • Datblygu ystwythder

 

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach Glan Wnion heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau yn Nolgellau, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.