Ynghylch a Byw’n Iach Glaslyn
Mae Byw’n Iach Glaslyn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau ffitrwydd.
Mae nofio yn rhan bwysig o be rydym yn cynnig. Efo Pwll Nofio 25metr a phwll bach. Rydym yn cynnig gwersi nofio i blant ac oedolion.
Rydym yn cynnig ystod wych o ddosbarthiadau ffitrwydd hefyd. Pob un wedi'i gynllunio i'ch helpu i gadw'n heini ac yn iach. Mae gennym rywbeth ar gyfer pob gallu, o'r rhai sydd eisiau gwaith dwys, i'r rhai sydd eisiau colli ychydig o bwysau.
Yn yr adeilad fe fyddwch yn darganfod Llyfrgell a chaffi hyfryd sy'n gweini bwyd ffres a choffi gwych bob dydd.
Hefyd mae gennym Ystafell Ffitrwydd efo amrywiaeth of peirannau ffitrwydd Pulse, beiciau a phwysau rhydd.