Mae’r prisiau isod yn berthnasol ym mhob canolfan Byw’n Iach ar draws Gwynedd.
Mae prisiau consesiwn yn berthnasol i’r canlynol: 0-24 oed, defnyddwyr anabl a defnyddwyr 60+ oed.
Aelodaeth Blynyddol
£21.30 – Mynediad i’r canolfannau, prisiau is i bob gweithgaredd, cerdyn aelodaeth Byw’n Iach, y gallu i archebu o flaen llaw. Mae plant o dan 16 flwydd oed yn cael yr Aelodaeth yma am ddim.
Cliciwch Yma: Prisiau Pecynnau ag Gweithgareddau
Aelodaeth Anabl
Mae gweithgareddau nofio ac ffitrwydd yn elfennau hanfodol o fywydau llawn. Mae pobl yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i fwynhau eu hunain, ymlacio ac er mwyn eu hiechyd. Mae gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn gwella lles cyffredinol. Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig aelodaeth anabl wnaiff alluogi cwsmeriaid anabl ddefnyddio cyfleusterau am bris disgowntiedig.
Beth sydd ar gael
- Nofio: Disgownt nofio i blant ac oedolion anabl yn ystod oriau nofio cyhoeddus. Mae pob pwll yn cynnig1 sesiwn am ddim yr wythnos, cysylltwch gyda eich pwll nofio lleol am rhagor o wybodaeth.
- Ystafell Ffitrwydd: Disgownt i blant ag oedolion anabl i unrhyw Ystafell Ffitrwydd Canolfannau Hamdden Gwynedd. Bydd angen anwythiad i bob ystafell ffitrwydd unigol.
- Hurio Cwrt: Disgownt ar gyrtiau badminton/prif neuadd. Cysylltwch â’r Ganolfan Hamdden i gael gwybod beth yw’r oriau agor a’r argaeledd.
Gofalwyr
Caiff hyd at ddau ofalwr fynychu gyda aelod anabl pan yn cymeryd rhan mewn gweithgareddau o fewn Canolfannau Hamdden Gwynedd yn rhad ac am ddim. (Mae’r cost anwythiad ar gyfer yr Ystafell Ffitrwydd yn dal i fod yn berthnasol)
Amodau aelodaeth anabl
I fod yn gymwys am aelodaeth anabl Gwynedd mae angen cyflwyno un o’r canlynol pan yn cwblhau y ffurflen aelodaeth:
- Lwfans Byw I’r Anabl (Dylech ddangos llyfr lwfans neu hysbysiad)
- Lwfans Gweini (Dylech ddangos tystiolaeth o lwfans)
- Credyd Treth I’r Anabl (Dylech ddangos llythyr hawl)
- Lwfans Cefnogi Cyflogaeth/Budd-dal Analluogrwydd
- Taliadau Annibyniaeth Bersonol
Ble i gael cerdyn
- Mae cerdyn aelodaeth ar gael mewn unrhyw un o Canolfannau Hamdden Gwynedd yn dilyn i ffurflen aelodaeth gael ei chwblhau.
- Bydd yr unigolyn yn gorfod talu am gardiau a gollwyd, a chardiau sydd wedi’u dwyn neu wedi’u difetha.
Defnydd o’r cerdyn
- Mae’n rhaid i’r aelod ddangos eu/ei cerdyn aelodaeth pan yn mynychu neu yn talu am y cyfleuster.Os na fyddent yn gwneud hyn, bydd rhaid iddynt dalu’r gyfradd arferol.
- Mae Cyngor Gwynedd yn cadw’r hawl i adolygu’r amodau hyn ar unrhyw adeg.
- Bydd newidiadau i’r amodau defnydd yn cael eu hysbysebu yn y cyfleusterau perthnasol 28 diwrnod cyn iddynt ddod i rym.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’ch canolfan lleol.