Seiclo Dan Do

Gwynedd Council
Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda

Seiclo Dan Do yn Bethesda

Mae dosbarth seiclo dan do yn un o’r goreuon am losgi calorïau! Bydd y dosbarth beicio grwp dan do yn eich helpu i ddod yn ffit yn gyflym, gan fynd â’ch ffitrwydd i’r lefel nesaf.

Mae beics llonydd yn rhoi ymarfer corff heb ardrawiad. Mae natur yr ardrawiad isel yn lleihau’r straen ar eich pengliniau a’ch traed, ac yn caniatáu i chi weithio gyda lefel ymwrthedd sy’n gweddu i chi.

Gyda miwsig trance egnïol a hyfforddwyr brwd i’ch cymell i fynd yn gynt, mae beicio dan do yn ffordd ragorol o gael eich siâp yn ôl.

Mae gennym hefyd system hyfforddi Spivvi, sy’n eich galluogi i hyfforddi ar y beiciau y tu allan i’r dosbarthiadau mewn ffordd effeithiol a chynhyrchiol!

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach Plas Ffrancon heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau ym Mhlas Ffrancon, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.