Seiclo Dan Do

Gwynedd Council
Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes

Seiclo Dan Do – Penygroes

Mae dosbarth seiclo dan do yn un o’r goreuon am losgi calorïau! Bydd y dosbarth beicio grwp dan do yn eich helpu i ddod yn ffit yn gyflym, gan fynd â’ch ffitrwydd i’r lefel nesaf.

Mae beics llonydd yn rhoi ymarfer corff heb ardrawiad. Mae natur yr ardrawiad isel yn lleihau’r straen ar eich pengliniau a’ch traed, ac yn caniatáu i chi weithio gyda lefel ymwrthedd sy’n gweddu i chi.

Gyda miwsig trance egnïol a hyfforddwyr brwd i’ch cymell i fynd yn gynt, mae beicio dan do yn ffordd ragorol o gael eich siâp yn ôl.

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach Plas Silyn heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau ym Mhlas Silyn, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.