Cerdyn Rhagoriaeth Byw’n Iach

Gwynedd Council

Cerdyn Rhagoriaeth Byw’n Iach

Mae’r cynllun yn cynnig mynediad i gyfleusterau hamdden Cwmni Byw’n Iach.cyf at ddibenion hyfforddi.

BETH YW MANTEISION MEDDU AR GERDYN RHAGORIAETH BYW’N IACH?

Mynediad am ddim i rai gweithgareddau yng nghyfleusterau Canolfannau Byw’n Iach Gwynedd:

  1. Nofio yn ystod sesiynau cyhoeddus.
  2. Mynediad i’r Ystafelloedd Ffitrwydd/ Pwysau yn ystod sesiynau cyhoeddus. (Defnydd yn ddibynnol ar delerau defnydd arferol y ganolfan ar gyfer pobl ifanc. Mae’n bosib i athletwyr Cerdyn Rhagoriaeth gofyn am asesiad unigol er mwyn ehangu eu defnydd o offer).
  3. Dosbarthiadau Ffitrwydd (llefydd gwag h.y. dim hawl i bwcio o flaen llaw)
  4. Gweithgaredd sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’ch chwaraeon (e.e. chwaraewr sboncen yn medru cael defnydd o Gyrtiau Sboncen / pan fydd lle ar gael h.y. dim hawl i bwcio o flaen llaw )

BETH YW’R MEINI PRAWF?

  1. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fyw yng Ngwynedd.
  2. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod cyfredol o Garfan GENEDLAETHOL Corff Llywodraethu Chwaraeon Cymraeg neu Brydeinig.
  3. Mae’n rhaid i ymgeiswyr nad oes gan eu chwaraeon Sgwad Genedlaethol, fod wedi gorffen yn gyntaf, ail neu’n drydydd mewn pencampwriaeth Cymraeg neu Brydeinig, wedi’i drefnu gan gorff llywodraethu cenedlaethol y chwaraeon (Nid cystadlaethau’r Urdd na chystadlaethau ysgolion cenedlaethol) yn ystod y 12 mis diwethaf.
  4. Mae’n rhaid bod Corff Llywodraethu eich chwaraeon yn cael ei gydnabod gan Chwaraeon Cymru.

BETH YW’R BROSES O WNEUD CAIS?

  • Gwiriwch y canllawiau hyn i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf.
  • Llenwch y ffurflen gais atodol.
  • Mae’n rhaid i chi anfon y canlynol efo’ch ffurflen gais –
  • Llun pasbort diweddar
  • Cost £10.00 yn daliadwy ar lein neu gyda cherdyn debyd neu gredid ar eich ymweliad cyntaf ir ganolfan. (ar gyfer costau gweinyddol). Dylai’r ffurflen gael ei e-bostio at:

alunjones2@bywniach.cymru

Os bydd y meini prawf perthnasol yn cael eu bodloni, bydd cerdyn yn cael ei gynhyrchu a’u hel atoch, fel arfer o fewn 1 mis.

BETH YW’R TELERAU A’R AMODAU?

  1. Mae’n rhaid i ddeilydd y cerdyn gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cyfleusterau. Os bydd cerdyn yn cael ei gamddefnyddio, bydd Byw’n Iach.cyf yn cadw’r hawl i ddiddymu’r Cerdyn Rhagoriaeth.
  2. Ni ellir trosglwyddo’r Cerdyn Rhagoriaeth.
  3. Mae’n rhaid i’r Cerdyn gael ei gyflwyno i’r dderbynfa bob tro y bydd deilydd y cerdyn yn ei ddefnyddio, neu bydd rhaid i’r deilydd dalu’r ffi lawn.
  4. Dim ond at ddibenion hyfforddi personol y gellir defnyddio’r cerdyn. Ni ddylid defnyddio’r cerdyn ar gyfer canolfannau datblygu/rhagoriaeth, sgwadiau neu hyfforddiant sefydliad preifat i leihau’r costau i eraill.
  5. Ni chaniateir archebu cyfleusterau na dosbarthiadau o flaen llaw.
  6. Mae’r cerdyn yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff ei gyhoeddi. I wneud ail gais, bydd rhaid llenwi ffurflen gais newydd.
  7. Mae gan Cwmni Byw’n.cyf Iach yr hawl i rannu gwybodaeth am ddeilyddion y Cerdyn Rhagoriaeth fel rhan o’i ymgyrchoedd marchnata e.e. trwy’r Wefan, trwy Cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol neu yn y Wasg
  8. Mi fydd angen i Gwmni Byw’n Iach.cyf yn rhannu gwybodaeth ar ymgeiswyr gyda’r Corff Llywodraethu a nodir yn y cais er mwyn prosesu ceisiadau.
  9. Mi fydd Cwmni Byw’n Iach.cyf yn cadw gwybodaeth a rhennir gyda’r cais ar system cyfrifiadurol y cwmni er mwyn galluogi mynediad i gyfleusterau.

Mae manylion llawn o ran y ffordd mae’r cwmni’n rheoli data i weld ar ein gwefan www.BywnIach.cymru.

CYFYNGIADAU

  1. Mae cyfyngiadau o ran oed yn berthnasol ar gyfer rhai cyfleusterau a gweithgareddau.
  2. Bydd rhaid i ddeiliaid cardiau trefnu sesiwn anwytho ar gyfer rhai cyfleusterau e.e. Ystafelloedd Ffitrwydd, a bydd angen talu am hyn ar wahân.
  3. Caniateir pob defnydd ar ddisgresiwn rheolwr y ganolfan

PWY SYDD AR Y CYNLLUN?

Dilynwch y linc yma i weld pwy sydd yn rhan o’r cynllun: Cliciwch Yma

Ffurflen Gais Cerdyn Rhagoriaeth

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt