Disgownt Corfforaethol

Eich canllaw i’r disgownt corfforaethol a phecyn Debyd Uniongyrchol cynhwysol ar gael efo Byw’n Iach yng Ngwynedd.

Corfforaethol

Disgownt Corfforaethol

Ar hyn o bryd mae Byw’n Iach yn cynnig gostyngiad corfforaethol ar ei becyn Debyd Uniongyrchol misol cynhwysol i weithwyr y sefydliadau canlynol:

  • Cyngor Gwynedd
  • NHS
  • Gwasanaeth tân Gogledd Cymru

Manteision Ymuno

  • Mae’r Pecyn yn cynnwys:
    Mynediad i’r ystafelloedd ffitrwydd,
    dosbarthiadau ffitrwydd,
    nofio cyhoeddus,
    gwersi nofio,
    gwersi plymio
    a chwaraeon raced*
    + Anwythiad AM DDIM.
  • Mynediad i bob un o’r 11 o safleoedd Byw’n Iach ar draws Gwynedd.
  • Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ffitrwydd, mae pob un ohonynt wedi’u cynnwys yn y pecyn
  • Llogi dosbarthiadau ffitrwydd ar lein

Sut i Ymuno

I ymuno, ewch i’ch canolfan leol a llenwch ffurflen gais. Bydd angen i chi ddod â phrawf cyflogaeth gyda chi (Cerdyn Adnabod neu slip cyflog) a chynnwys eich rhif cyflog ar eich cais i dderbyn y disgownt.

*Noder: Nid yw bob cyfleuster ar gael ymhob canolfan. Os ar gael, amodau’n berthnasol.

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt