Cwestiynau Cyffredin
Ydy'ch canolfannau ar agor?
Na, mae ein canolfannau bellach ar gau.
Pryd fydd eich canolfannau'n ailagor?
Caeodd ein canolfannau ar Ragfyr 19. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r rheoliadau bob 3 wythnos. Byddwn yn eich diweddaru unwaith y byddwn yn gwybod am unrhyw ddatblygiadau pellach.
Beth fydd yn digwydd gyda fy Aelodaeth Debyd Uniongyrchol?
Bydd bob Aelodaeth Debyd Uniongyrchol* weithredol yn cael eu rhewi Ddydd Iau Rhagfyr 24ain.
Ni chymerir unrhyw daliad ym mis Ionawr.
Bydd Debyd Uniongyrchol Presennol sydd wedi eu rhewi ar hyn o bryd yn aros felly.
NID oes angen i chi wneud unrhyw beth. Byddwn mewn cysylltiad â gwybodaeth bellach am eich aelodaeth unwaith y bydd gennym ni yn y flwyddyn newydd.
*Mae hyn yn cynnwys aelodaeth Ffitrwydd, Cynhwysol, Nofio, Gymnasteg a Phlant
Unwaith y byddwn yn derbyn hysbysiad o ddyddiad ailagor, byddwn yn cysylltu â phob cwsmer sydd ag aelodaeth “byw / heb ei rewi” ar hyn o bryd, i’ch hysbysu y bydd eich aelodaeth yn dod yn weithredol unwaith eto ac yn cadarnhau y trefniadau talu yn y dyfodol.
A oes angen i mi wneud cais i rewi fy aelodaeth?
Bydd pob Aelodaeth Debyd Uniongyrchol gweithredol yn cael eu rhewi Ddydd Iau Rhagfyr 24ain. NID oes angen i chi wneud unrhyw beth gan y bydd hyn yn cael ei wneud yn awtomatig i chi. Byddwn mewn cysylltiad gyda gwybodaeth bellach am eich aelodaeth unwaith y bydd gennym ni ddiweddariad yn y flwyddyn newydd
Sut mae'r cyfnod cloi yn effeithio ar fy nhocyn misol / blynyddol?
Os oes gennych docyn Blynyddol neu Fisol gweithredol gyda Byw’n Iach, ychwanegir amser at eich tocyn i wneud iawn am y cyfnod cloi.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gan y bydd hyn yn cael ei wneud yn awtomatig. Bydd eich aelodaeth yn weithredol eto unwaith y gallwn ailagor.
Prynais gerdyn Byw'n Iach blynyddol i ddechrau mynychu eto, a fydd amser yn cael ei ychwanegu i wneud iawn am y cau?
Ychwanegir amser at eich cerdyn blynyddol Byw’n Iach i wneud iawn am y cyfnod cloi.
Mae gen i archeb yn barod, beth sydd angen i mi ei wneud?
Bydd unrhyw archeb a wneir yn ystod y cyfnod cloi yn cael ei ganslo. Os ydych wedi talu ymlaen llaw am unrhyw sesiynau yn ystod yr amser hwn byddwn yn cysylltu â chi ynghylch aildrefnu neu ad-dalu’r archeb.
Sut dwi'n cael mynediad i'r dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein am ddim?
Os hoffech chi fod yn bresennol cofrestrwch yma: Cofrestrwch ar gyfer Dosbarthiadau Ar-lein
(Sylwch y bydd y rhaglen yn newid am y cyfnod cloi ond byddwch yn derbyn y rhaglen newydd mewn e-bost)
Gallwch hefyd fwynhau ein rhaglenni ffitrwydd unrhyw dro ar ein sianel YouTube.