Cyfleusterau Cynhwysol Byw’n Iach

Gwynedd Council

Mae Cwmni Byw’n Iach wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cynhwysol, i bawb yn cynnwys pobl anabl, ar draws eu cyfleusterau a rhaglenni.  Mi fydd y cwmni hefyd yn defnyddio ei adnoddau i annog partneriaid eraill i weithio’n gynhwysol fel bod cyfleoedd addas i bawb o fewn ein cymunedau i fod yn actif. 

Rydym yn falch o fod wedi pasio achrediad Insport ar y lefel Rhuban ac yn y broses o weithio tuag at yr achrediadau lefel uwch. Mae Insport yn rhaglen trwy Chwaraeon Anabledd Cymru sydd yn hyrwyddo cyfleoedd cynhwysol yn y byd chwaraeon. 

Mae sawl cyfle cynhwysol gwahanol  i fod yn actif o fewn ein canolfannau ac o fewn ein rhaglenni. Rydym yn gobeithio fod y gwybodaeth isod yn help i chi dod o hyd I’r gwybodaeth mwyaf defnyddiol. 

Gwybodaeth Mynediad ar gyfer ein adeiladau a Gwybodaeth am ein Offer Ffitrwydd Cynhwysol 

Mynediad am ddim i Ofalwyr

Prisiau Consesiwn

Mae prisiau consesiwn yn berthnasol i’r canlynol: 0-24 oed, defnyddwyr anabl a defnyddwyr 60+ oed. Diliwch y linc i weld holl brisiau Byw’n Iach

Prisiau Consesiwn Byw’n Iach

Sesiynau Chwarae i Blant Gydag Anghenion Ychwanegol

Cynhelir sesiynau rheolaidd yng nghanolfannau Dwyfor, Penllyn ac Arfon. Mae’r sesiynau’n gyfle i’r teulu gyfan mwynhau awr o chwarae yn ein Neuaddau Chwaraeon gydag offer a chenfogaeth ychwanegol gan ein partneriaid Tim Derwen.

Nofio Cynhwysol

Amlinelliad o’r sesiynau penodol a gwersi a’r cyfle i ymuno a gwersi prif lif / cyfle i gysylltu gyda’r Swyddog Nofio o flaen llaw i drafod anghenion ychwanegol…

Mae mynediad i Oxford Dipper 140 Transferable Changing Room Hoist ar gael ym mhob canolfan gwlyb gan Byw’n Iach.

Mae Byw’n Iach yn cynnig nofio am ddim i bawb sydd gyda cherdyn adnabod Gofalwyr Ifanc. Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio cyhoeddus i’r Gofalwr + 1 ffrind neu aelod teulu.

Mae Byw’n Iach yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol MAX Card. Rhagor o wybodaeth ar y wefan yma: Gwefan Cerdyn Max. Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio teulu yn ein pyllau i deuluoedd sydd a Cherdyn Max. Bydd angen i un oedolyn yn y teulu fod yn aelod o Byw’n Iach er mwyn i’r teulu cael nofio am ddim. Pan fydd y cwsmeriaid yn ffonio i archebu lle, rhaid gwneud y canlynol.

Sesiynau yn ein Canolfannau sydd wedi trefnu gan Bartneriaid 

Clybiau Insport  yng Ngwynedd 

  • Insert Rhestr o’r clybiau a pwyntiau cyswllt 
Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt