Diweddariad Byw’n Iach i Glybiau ac Ysgolion

26 Mawrth 2021

Gwynedd Council

Diweddariad Byw’n Iach i Glybiau ac Ysgolion – 26 Mawrth 2021

CLYBIAU a MUDIADAU

Yn sgil cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ddoe mi fydd hi’n bosib i gwmni Byw’n Iach derbyn llogiadau unwaith eto ar gyfer ein caeau a chyrtiau allanol i bwrpas cynnal sesiynau wedi trefnu i rai o dan 18 oed. Os ydych chi’n dymuno ail gychwyn eich sesiynau Ieuenctid, mi fydd angen cyflwyno ffurflen llogi wedi cwblhau yn ogystal â fersiwn wedi diweddaru o’ch Asesiad risg Covid 19, wedi arwyddo a’i ddyddio, cyn medru cychwyn sesiynau.

I logi, rydym yn awgrymu i chi gysylltu â’r ganolfan berthnasol yn y lle cyntaf. Mae ein Canolfannau wedi staffio ar sail rhan amser yn unig ar hyn o bryd. Os fyddwch chi’n cael trafferth cysylltu yn y dull arferol, mae croeso i chi e bostio ni ar cyswllt@bywniach.cymru <mailto:cyswllt@bywniach.cymru> , ac mi fydd aelod o’n tîm Busnes yn rhoi sylw i’r cais. Mae croeso i chi hefyd gysylltu yn yr un modd, os oes angen cymorth arnoch chi o ran cwblhau eich Asesiad Risg.

YSGOLION

Rydym yn parhau i fedru derbyn llogiadau gan ysgolion ar gyfer defnydd o gyfleusterau sych tu mewn a chyfleusterau tu allan, i bwrpas addysg gwricwlaidd. Ar ôl y Gwyliau Pasg mi fydd modd i ni hefyd derbyn llogiadau ar gyfer sesiynau chwaraeon ar ôl ysgol, tu allan, ar ein caeau a chyrtiau. Plîs cysylltwch â’r rheolwyr eich canolfan lleol i drafod argaeledd.

Rydym wedi derbyn rhybudd y bydd y Llywodraeth yn ystyried caniatáu Canolfannau Hamdden a Phyllau Nofio i ail agor yn dilyn yr adolygiad swyddogol ar 23 Ebrill 2021. Gyda hynny mewn sylw, mi fydd aelodau o’n tîm yn cysylltu gydag Ysgolion Cynradd dros yr wythnosau nesaf i ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb mewn dychwelyd i’r Pyllau ar gyfer cyfres o sesiynau Diogelwch Yn Y Dŵr. Mae’n fwriad i ni gynnig cyfres o sesiynau yn rhad am ddim yn ystod tymor yr Haf i’r disgyblion hyn mewn Ysgolion Cynradd (blaenoriaeth o flwyddyn 6).

Rydym yn bryderus iawn y bydd nifer sylweddol o blant y sir fydd yn trosglwyddo i addysg uwchradd ym mis Medi ar ôl methu dros flwyddyn o wersi nofio. Gan bod y rhan fwyaf o’n plant yn byw o fewn cyrraedd yr arfordir, afonydd a llynnoedd mae hyn yn bryder amlwg. Oherwydd y cyfyngiadau Covid fydd angen cadw mewn lle, mi fydd y llefydd ar gyfer hyn yn gyfyngedig ac felly rydym yn gofyn yn garedig i chi ymateb i’r cais Datgan Diddordeb yn brydlon, er mwyn i ni fedru cynllunio a darparu ar gyfer y nifer mwyaf posib o ddisgyblion.

Diolch yn Fawr!

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt