Gweithgareddau Cost Isel

Gwynedd Council

Mae Byw’n Iach yn cynnig llawer o weithgareddau cost isel ac am ddim ar draws ein canolfannau!

Gweithgareddau:

Nofio Am Ddim

Nofio am Ddim i Rhai o dan 16 oed
Mae pob un o’r saith pwll nofio yn cynnig sesiynau nofio am ddim i blant dan 16 yn ystod penwythnosau, heblaw am sesiwn Bro Ffestiniog sydd ar Nos Fawrth. Mae hefyd sesiynau ychwanegol am ddim ar gael yn ystod gwyliau’r haf.

Bydd angen Tocyn Aelodaeth Blynyddol Byw’n Iach i fynychu sesiynau nofio am ddim. Cysylltwch a’r ganolfan leol er mwyn trefnu hyn.

 

Nofio am Ddim 60+
Gall cwsmeriaid dros 60 oed, sy’n byw yng Nghymru, nofio yn unrhyw un o’n pyllau nofio am ddim yn ystod sesiynau nofio penodol.

Rhaid i chi gael yr aelodaeth flynyddol i gael mynediad i’r sesiynau am ddim 60+

 

Cerdyn Max
Mae Byw’n Iach yn cymryd rhan mewn cynllun cenedlaethol cerdyn MAX.

Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio teulu yn ein pyllau i deuluoedd sydd a Cherdyn Max. Bydd angen i un oedolyn yn y teulu fod yn aelod o Byw’n Iach er mwyn i’r teulu cael nofio am ddim.

Rhagor o wybodaeth ar y wefan yma : Gwefan Cerdyn Max

 

Gofalwyr Ifanc 
Mae Byw’n Iach yn cynnig nofio am ddim i bawb sydd gyda cherdyn adnabod Gofalwyr Ifanc.

Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio cyhoeddus i’r Gofalwr + 1 ffrind neu aelod teulu.

 

Cyn-filwyr
Byddwn yn darparu mynediad am ddim i sesiynau nofio yn ein pyllau i unrhyw un sydd hefo cerdyn DDS a Defence Privilege Card.

 

Mae fwy o wybodaeth am sesiynau nofio am ddim ar gael yma : Nofio Am Ddim

Gwyliau ysgol

Yn ystod yr gwyliau ysgol, mae Byw’n Iach yn cynnig nifer o gweithgareddau am ddim i phlant a pobl ifanc. Fel rhan o Haf o Hwyl eleni, Haf 2023, mae’r canlynol am ddim:

  • Chwarae Meddal 0-5 oed
  • Sesiynau Chwarae i Blant gyda Anghenion Arbennig
  • Mynediad i Ddosbarthiadau Ffitrwydd y Prif Raglen i blant 11-18oed
  • Camp Chwaraeon Mawr
  • Camp Chwaraeon Bach
  • Nofio Cyhoeddus

Linc am yr holl weithgareddau ac amserlenni sydd ar gael dros Haf o Hwyl eleni: Haf o Hwyl

Gerddi Cymunedol

Mae Byw’n Iach wedi ddatblygu gerddi cymunedol yn sawl canolfan ar draws y sir ac mae pawb yn croeso i’w ddefnyddio unrhyw dro am ddim! Mae rhain ar gael yn:

  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli
  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon
  • Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda

Mae’r gerddi yn le perffaith i cymdeithasu, plannu, pigo ffrwythau a llysiau neu chael picnic fel teulu! Bydd yr amser yn yr awyr agored hefyd yn dda at iechyd meddwl.

Cynllun Chwarae Allan

Dros y Gwyliau ysgol yn ystod 2023, mi fydd Byw’n Iach yn caniatáu i blant a phobl ifanc lleol defnyddio cyrtiau a chaeau tu allan yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y ganolfan a thu allan i sesiynau sydd wedi cael eu llogi gan gwsmeriaid. Dyma beth sydd ar gael:

  • Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda (Cae synthetig)
  • Byw’n Iach Bangor (Cae 5 pob ochr)
  • Byw’n Iach Arfon, Caernarfon (Cae synthetig, chyrtiau tenis a pêl fasged)
  • Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes (Cae synthetig)
  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli (Cae synthetig, chyrtiau tenis)
  • Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog (Cae 5 pob ochr, chyrtiau tenis)
  • Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau (MUGA)
  • Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn (Cae synthetig, chyrtiau tenis)

Mi fydd ychydig o offer sylfaenol hefyd ar gael i fenthyg os bydd angen e.e. racedi tenis a pheli.

Mae croeso i rieni a gwarchodwyr chwarae gyda’u plant a fydden ni’n cydweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r Heddlu i drefnu digwyddiadau o dro i dro.

Pecynnau a thocynnau:

Tocyn Diwrnod Teulu

Mae Byw’n Iach hefyd yn cynnig tocyn diwrnod teulu sydd yn ffordd berffaith i’r teulu cyfan mwynhau cyfleusterau’r canolfannau am gost isel!

Am £13.80 (aelodau) ac £18.00 (di-aelodau), mae’r tocyn yn caniatáu i 2 oedolyn gydag i fynnu at 4 phlentyn (16 oed  ac o dan) i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y canolfan am y diwrnod cyfan!

Mae yna rywbeth i bawb yn y teulu gyda badminton, sboncen, tenis a thenis fwrdd wedi ei chynnwys yn y tocyn. Mae nofio hefyd ar gael fel rhan o’r tocyn yn 7 o’r canolfannau!

Mae’r tocyn yma ar gael i’w phrynu yn dderbynfa bob canolfan!

Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth: cyswllt

Aelodaeth

Mae plant o dan 16  oed yn cael aelodaeth flynyddol Byw’n Iach am ddim ac mae nofio i phlant o dan 3 oed am ddim.

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt