Dewis Iaith:

Croeso i Wyliau Ffitrwydd Byw’n Iach!

Ymunwch â ni er mwyn cael blas ar beth sydd gen Byw’n Iach i gynnig i chi!

Ydych chi’n barod i chwysu, cael hwyl, a chysylltu â chymuned fywiog i Fyw’n Iach? Croeso i Wyliau Ffitrwydd Byw’n Iach, ble mae ffitrwydd yn cwrdd â hwyl mewn amgylchedd egnïol wedi’i gynllunio i bawb—boed chi’n athletwr profiadol neu’n dechrau ar eich taith ffitrwydd.

Dyma gyfle i chi drio ein dosbarthiadau cyn ymuno!

Mae’r rhain AM DDIM ar draws y sir!

Beth i'w Ddisgwyl?

Yn ein gwyliau ffitrwydd, rydyn ni’n cynnal sesiynau blasu o’n dosbarthiadau ffitrwydd, rhaglenni ffitrwydd arloesol, ac awyrgylch anhygoel i greu profiad bythgofiadwy. Dyma beth allwch chi edrych ymlaen ato:

  • Bydd bob canolfan yn cynnig dosbarthiadau gwahanol ar draws y sir.
  • Bydd cyfle i ddod i adnabod yr hyfforddwyr
  • Dewch a ffrind gyda chi, os bydd eich ffrind yn ymuno, byddwch CHI A’R FFRIND YN CAEL MIS AM DDIM!
  • Bargen Bodystats – Cyfle i brynnu 2 sesiwn bodysats am bris arbennig o £25. Ar gael rhwng 23/09/ – 31/01/24! Cyfle i chi ddefnyddio y ddau fel y mynnoch!


Cynnig Arbennig

Fel rhan o’r gwyliau ffitrwydd eleni, bydd 2 cynnig arbennig ar gael:


Pryd mae nhw ymlaen?

Ardal y Gogledd:

  • Byw’n Iach Arfon (Canolfan Tenis): 26/09/24, 17:45-19:15
  • Byw’n Iach Plas Ffrancon: 25/09/24, 18:00-20:00

Ardal y Canol:

  • Byw’n Iach Dwyfor, Pwllheli: 03/10/24, 18:00-20:00
  • Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog: 02/10/24, 18:00-20:00
  • Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes: 01/10/24, 18:00-20:00

Ardal y De

  • Byw’n Iach Bro Dysynni, Tywyn: 24/09/24, 18:15-20:15
  • Byw’n Iach Glan Wnion, Dolgellau: 26/09/24, 18:00-20:00
  • Byw’n Iach Pafiliwn, Abermaw: 26/09/24, 17:30-19:00
  • Byw’n Iach Penllyn, Y Bala: 23/09/24, 18:00-20:00


Pa ddosbarthiadau fydd yn cael ei chynnig?

Mae holl bosteri y canolfannau ar gael isod!

Cysylltwch eich canolfan lleol ar gyfer mwy o wybodaeth neu i archebu lle: Cyswllt