Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd Bwy’n Iach Cyf.

Mae Byw’n Iach Cyf. yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd.

Wrth benderfynu ar ba wybodaeth bersonol i’w chasglu, i’w defnyddio a’i dal, rydym yn ymroddedig i wneud yn siŵr y byddwn:

  • Yn casglu, dal a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny’n unig.
  • Yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
  • Yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel, pan nad oes ei hangen mwyach.
  • Yn agored gyda chi ynghylch sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, a gyda phwy rydym yn ei rannu
  • Yn mabwysiadu a chynnal safonau uchel o arfer gorau, wrth drin unrhyw wybodaeth bersonol.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut rydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch, pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaeth.

Cafwyd yr Polisi yma ei ddiweddaru yn Gorffenaf 2020

Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu amdanoch chi?

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn ymuno a neu llogi cyfleusterau yn ein Canolfannau Byw’n Iach Cyf. er mwyn cael mynediad at ein gwasanaethau. Gall yr wybodaeth hon gynnwys:

  • Personol – Enw, cyfeiriad, ebost, rhif ffôn, dyddiad geni, rhyw.
  • Cynnyrch neu gwasanaeth – math o ymholiad, cynnyrch neu wasanaeth sydd wedi ei ddefnyddio neu brynu ganddom, gweithagreddau sydd yn diddordebu chi. Cynigion hyrwyddol sydd yn diddordebu chi, math o aelodaeth sydd yn diddordebu chi.
  • Defnydd – defnydd gweithgareddau a diffyg presenoldeb
  • Delwedd – drwy gymeryd rhan mewn gweithgareddau neu ymaelodi, gelli’r cymeryd eich llun er mwyn gwirio eich hunaniaeth

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt, cynnal cofnodion cywir, ac os ydych chi’n cytuno, i anfon gwybodaeth farchnata atoch am ddigwyddiadau neu wasanaethau a gynigiwn.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwn yn llenwi arolygon cwsmeriaid yn wirfoddol, neu’n rhoi adborth.

Mae gwybodaeth am ddefnydd o’r wefan yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis. Mae manylion ynghylch sut rydym yn defnyddio cwcis i’w gweld ar ein gwefan.

https://www.bywniach.cymru/cookies-policy

Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch?

Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn angenrheidiol ar gyfer perfformio’r contract rhyngom.

Caiff ei ddefnyddio:

  • at y diben y gwnaethoch ddarparu’r wybodaeth, h.y. i ddod yn aelod o Byw’n Iach Cyf.;
  • i’n galluogi i gyfathrebu â chi, a’ch darparu gyda gwybodaeth am wasanaethau Byw’n Iach Cyf.
  • i’n galluogi i reoli eich cyfrif cwsmer yn effeithiol, ac i sicrhau y cesglir unrhyw daliadau y codir arnoch fel aelod o ganolfannau Byw’n Iach Cyf.;
  • i fonitro ein perfformiad wrth ddarparu gwasanaethau i chi;
  • i gasglu gwybodaeth ystadegol i’n caniatáu i gynllunio gwasanaethau i’r dyfodol, ac i gael eich barn ar ein gwasanaethau.
  • i weinyddu a darparu cynnyrch a gwasanaethau sydd yn didordebu chi
  • i’n gallugoi i weinyddu unrhyw gystadleuaeth neu unrhyw gynnig/hyrwyddiad dachi wedi gofrestru am.
  • i gyfathrebu hefo chi ynglŷn a cynnyrch neu wasanaeth yn unol âch cais sydd ddim ar gael.
  • at ddiben sgrinio ac atal twyll.
  • at ddiben cadw cofnodion.
  • i wnedu ymchiliad marchnata er mwyn gwella ein cynnig o gynnyrch a gwasanaethau
  • i gofnodi eich gweithgaredd ar ein platform digidol
  • i greu proffil unigol i chi, er mwyn deallt a parchu eich dewis
  • i bersonoli a gwella eich profiad ar ein platform digidol
  • i bersonoli a teilwra unrhyw gyfathrebu fe all yrru atoch
  • at ddiben proffilio i allugoi ni bersonoli a/neu teilwra unrhyw gyfathrebu marchnata y fe all chi rhoi caniatad i ni
  • i gynnal cofnod eich lefel ffitrwydd a nofio.
  • i ddarparu cerdyn tanysgrifiad aelodaeth er mwyn cael mynediad i’r cyfleusterau
  • i yrru rhybyddion tanysgrifiad
  • i ddarparu aelodaeth i chi.
  • i gadw eich gwybodaeth personol ar basdata ein system aelodaeth, am hyd yr aelodaeth.
  • i gysylltu a chi ynglyn a gohebiaeth perthnasol
  • i ddarparu gwybodaeth marchnata penodol sydd wedi selio ar eich dewisiadau
  • i ddefnyddio lluniau/fideo mewn marchnata hefo’ch caniatad
  • Mae’n bosibl byddwn hefyd yn danfon deunydd marchnata atoch os ydych wedi caniatáu hynny.

Cadw eich data personol yn ddiogel

Mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel ar systemau rheoli hamdden sy’n cael ei storio gan Cyngor Gwynedd. Mi fydd hefyd gwyboaeth bersonol y rhai sydd yn arwyddo i ddefnyddio meddlawedd PulseMove yn cael ei gadw ar gronfa ddata allanol yn Nulyn gan gwmni o’r enw Pulse Fitness.

Bydd eich data ond yn cael ei ddefnyddio at y dibenion o reoli eich defnydd o’r Canolfannau, a chaiff ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n diogelu eich preifatrwydd.

Gall eich data hefyd fod yn hygyrch i’r cyflenwyr o’r systemau rheoli hamdden. Mae’r cyflenwyr hyn yn ymroddedig i drin data yn unol â’r gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), a byddant ond yn gwneud hynny i’r graddau sy’n ofynnol i gynnal y systemau rheoli hamdden.

Datgelu gwybodaeth i bartïon allanol

Fyddwn ond yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd parti arall, lle bo angen a mae’n gyfreithlon e.g. Cyngor Gwynedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Heddlu.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod Byw’n Iach Cyf. yn diogelu’r cyllid cyhoeddus mae’n ei ddyrannu ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych i atal, datgelu ac ymchwilio i dwyll ac afreoleidd-dra. Ar gyfer perfformiad contract, neu dasg, a wneir er budd y cyhoedd ac i gydymffurfio gyda rhwymedigaeth gyfreithiol. Y sail gyfreithio yw Rhan 6 o Ddeddf Archwiliad Lleol ac Atebolrwydd 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru).

Ni fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth ar gyfer dibenion marchnata gyda chwmnïau’r tu allan i Wasanaeth Byw’n Iach Cyf. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i unrhyw sefydliad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu’n cael ei rhannu â nhw.

Gellir defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu ar gyfer dibenion ymchwil, hanesyddol neu ystadegol. Pan fo hyn yn wir, bydd y data perthnasol yn ddienw er mwyn peidio â chynnwys unrhyw nodweddion a allai arwain at adnabod pobl. Os ydych yn caniatáu i ni gasglu a rhannu gwybodaeth am eich cefndir ethnig, eich credoau crefyddol, neu unrhyw anabledd a all fod gennych, byddwn ond yn gwneud hynny i fodloni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac i sicrhau bod y gwasanaeth a roddwn i chi’n addas i’ch anghenion.

Pryd rydym yn casglu data personol amdanoch?

Fe allwn gasglu data personol amdanoch i sicrhau y profiad gorau posib, pan fyddwch yn:

  • Ymwelad a’r wefan, archebu arlein
  • Pan y byddwch yn prynu un o’n gwasanaethau ar-lein neu oddi ar-lein
  • Pan y byddwh yn siarad hefo ni ar ffôn
  • Cofrestru i fod yn aelod hefo ni a derbyn unrhyw wasanaeth
  • Llenwi ffurflen neu holiadur i ni.
  • Wrth bynu rhywbeth ar ein gwefa.
  • Cymeryd rhan mewn cystadleuaeth neu hyrwyddiad neu gweithgared marchnata
  • Cysylltu â ni, er enghraifft drwy ebost, ffôn neu cyfryngau cymdetihasol.
  • Defnyddio nodweddion rhyngweithiol ar ein gwefan.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Cedwir eich gwybodaeth am gyfnod lleiafswm sydd ei angen ar gyfer ein pwrpas. Pan fyddwn yn cael gwared ar wybodaeth bersonol, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.

Eich hawliau chi

Mae’r gyfraith yn rhoi nifer o hawliau i chi:

Gofyn am wybodaeth amdanoch chi eich hun

Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.

Ond, ni fydd yn bosib i ni roi gwybodaeth i chi os ydi’r cofnod yn cynnwys:

  • gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill; neu
  • gwybodaeth mae gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol chi neu rywun arall; neu
  • oe bai rhoi’r wybodaeth yn ein hatal rhag atal neu ddatrys trosedd

Ceir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at 2 fis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

Gofyn i ni gywiro gwybodaeth rydych yn credu sy’n anghywir

Dylech roi gwybod i ni os ydych yn credu bod gwybodaeth amdanoch yn anghywir.

Mae’n bosib na fyddwn yn medru newid na dileu’r wybodaeth bob amser ond fe wnawn ni gywiro unrhyw beth sy’n ffeithiol anghywir.

Caniateir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at ddeufis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

Dileu gwybodaeth (right to be forgotten)

Mewn rhai achosion gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, er enghraifft:

  • lle nad oes angen eich gwybodaeth bersonol mwyach
  • lle rydych wedi tynnu eich caniatâd yn ôl
  • lle mae eich gwybodaeth wedi ei defnyddio yn anghyfreithlon
  • lle bo gofyn cyfreithiol i ddileu’r wybodaeth
  • lle rydych wedi gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth
  • lle mae data wedi ei gasglu fel rhan o wasanaeth ar-lein i blant (llwytho app neu wefannau cymdeithasol)

Ni allwn ddileu eich gwybodaeth lle:

  • mae’r gyfraith yn dweud bod rhai i ni ei chadw
  • mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer mynegiant rhydd
  • mae’n cael ei defnyddio i bwrpasau iechyd cyhoeddus sydd er budd y cyhoedd
  • mae’n cael ei defnyddio i bwrpas ymchwil neu ystadegol
  • mae ei angen ar gyfer hawliadau cyfreithiol.

Gofyn i ni gyfyngu’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol

Mae gennych yr hawl i ofyn am hyn lle:

  • rydych wedi darganfod bod gwybodaeth amdanoch yn anghywir ac wedi ein hysbysu
  • rydych wedi gwrthwynebu prosesu ac mae angen i ni gael amser i benderfynu os yw ein seiliau yn gorbwyso hawliau’r unigolyn
  • nid oes gennym hawl cyfreithiol i ddefnyddio’r wybodaeth ond rydych am i ni gyfyngu’r defnydd yn hytrach na’i dileu’n gyfangwbl
  • nid oes gennym reswm i’w gadw ond rydych chi ei angen er mwyn sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliad cyfreithiol
  • ceir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at ddeufis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

Symud eich gwybodaeth i ddarparwr arall (data portability)

Mae gennych hawl i ofyn am eich gwybodaeth bersonol mewn fformat cyffredin neu gael ei rhoi i ddarparwr gwasanaeth arall.

Fodd bynnag, gall hyn ond digwydd os ydym yn:

  • defnyddio eich gwybodaeth efo’ch caniatâd neu trwy gontract
  • mae’r prosesu yn digwydd yn awtomataidd (gan gyfrifiadur)

Gwrthwynebu prosesu gwybodaeth

Mae gennych hawl i wrthwynebu o dan yr amgylchiadau a ganlyn:

  • Rydym wedi prosesu eich gwybodaeth ar sail buddion cyfreithlon neu dasg gyhoeddus/awdurdod swyddogol;
  • Lle mae marchnata cyhoeddus;
  • I brosesu oherwydd ymchwil neu ystadegau

Byddwn yn cydymffurfio efo’r cais oni bai:

  • Fod rhesymau cryf, cyfreithlon dros brosesu
  • Bod angen sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol

Hawliau o ran penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Mae gennych yr hawl i ofyn am esboniad o unrhyw benderfyniadau sydd wedi eu gwneud gan gyfrifiadur (hy penderfyniadau heb unrhyw ymyrraeth gan unigolyn).

Gallwch gwestiynu unrhyw benderfyniadau a wnaed gan gyfrifiadur amdanoch, oni bai fod angen gwneud hyn ar gyfer contract, mae yna ofyn cyfreithiol neu rydych wedi rhoi eich caniatâd i hyn ddigwydd.

Mae’n bosib hefyd i chi wrthwynebu i unrhyw ‘broffilio’, sef pan fo penderfyniadau yn cael eu gwneud amdanoch sy’n seiliedig ar eich gwybodaeth bersonol e.e cyflwr iechyd.

Byddwn yn eich hysbysu os ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch proffilio.

Sut i gysylltu gyda ni

Cysylltwch â ni os hoffech ddiweddaru eich manylion personol:

Email

Rhif Ffôn: 01286 679679

Ysgrifennwch at: DPO, Byw’n Iach Cyf. (Ltd), Byw’n Iach Arfon, Ffordd Bethel, Caernarfon LL55 1HW

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt