Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.
Mae Byw’n Iach yn barod i gynnig amrywiaeth o weithgareddau i ymwelwyr yng Ngwynedd!
Tocynnau a Phrisiau:
Tocyn diwrnod i'r teulu
Chwilio am rywbeth i wled gyda’r teulu? Eleni am y tro cyntaf rydym yn cynnig tocyn diwrnod i’r teulu. Perffaith ar gyfer y teulu i gyd, mae’r tocyn yma yn gymwys i 2 oedolyn, a 4 o blant hyd at 16 oed. Yn y tocyn mae mynediad i byllau nofio Byw’n Iach, tenis bwrdd, badminton, sboncen a tenis.
Mae’r tocyn yma ar gael ym mhob derbynfa.
Tocyn diwrnod a tocyn wythnos
Rydym hefyd yn cynnig aelodaeth gynhwysol wythnos o hyd (7 diwrnod) am £23.50, ogystal a tocyn diwrnod am £10.60. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae hyn yn darparu mynediad i’n hystod eang o gyfleusterau.
- Nofio Cyhoeddus
- Ystafelloedd Ffitrwydd
- Dosbarthiadau ffitrwydd
- Gwersi Nofio Oedolion
- Cyrtiau chwaraeon raced ar unrhyw nifer o achlysuron, ar draws ein holl safleoedd yng Ngwynedd.
- Anwythiad am ddim
Gweithgareddau i bawb :
Haf o Hwyl
Dyma lu o weithgareddau sydd gan ganolfannau Byw’n Iach dros yr haf eleni. Dyma rhaglen Haf sy’n gyfuniad o weithgareddau am ddim a rhai gyda ffi ar gael yn ein canolfannau ar draws Gwynedd rhwng 24/07/23 – 01/09/23.
- Chwarae Meddal 0 – 5 oed- am ddim!
- Sesiynau Chwarae i blant gyda anghenion arbennig- am ddim!
- Camp Chwaraeon 8 – 11 oed- am ddim!
- Camp Chwaraeon Bach 5 – 7 oed- am ddim!
- Sesiynau Pasbort Ffitrwydd 11 – 15 oed
- Mynediad am ddim i ddosbarthiadau ffitrwydd y prif raglen i blant 11 – 18 oed
- Chwarae Allan – caniatáu i blant a phobl ifanc lleol defnyddio cyrtiau a chaeau tu allan yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y ganolfan a thu allan i sesiynau sydd wedi cael eu bwcio gan gwsmeriaid.
- Nofio Am Ddim 0 – 16 oed
- Sesiynau Inflatables a Fflôt
- Cyrsiau Nofio Dwys wythnosol
- Gwersi Nofio Swigod 0 – 3 oed
Dyma linc i archebu ar lein (bydd angen cyfrif Byw’n Iach. Os nad oes gennych gyfrif, cysylltwch â cyswllt@bywniach.cymru):
Archebwch ar lein
Linc am yr holl weithgareddau ac amserlenni sydd ar gael dros Haf o Hwyl eleni:
Haf o Hwyl
Beics Trydan
Mae gan Byw’n Iach feics trydan i chi eu hurio hyd at 3 awr / neu i gael sesiynau tywys. Mae’r beics ar gael yn y canolfannau canlynol yn ystod y flwyddyn
- Byw’n Iach Bangor
- Byw’n Iach Arfon, Caernarfon (safle tenis)
- Byw’n Iach Plas Silyn, Penygroes
- Byw’n Iach Penllyn, Y Bala
- Bydd y beics ar gael yn Byw’n Iach Dwyfor, Pellheli yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 5ed a 12fed o Awst 2023.
Am fwy o wybodaeth am lwybrau lleol, a lleoliadau ar lefyd di fynd ar y beics, dilynwch y linc yma: Llwybrau Beicio Gwynedd
Prisiau hanner diwrnod
Defnyddiwr | Aelod | Di Aelod |
---|---|---|
Oedolyn | £11.10 | £13.60 |
Consesiwn (16-24/ 60+/ anabl) | £9.40 | £11.30 |
Pris sesiynau dan arweiniad
Defnyddiwr | Aelod | Di Aelod |
---|---|---|
Oedolyn | £7.50 | £9.40 |
Consesiwn (16-24/ 60+/ anabl) | £5.10 | £6.60 |

Chwarae Allan
Rydym yn deall fod diddanu plant dros y gwyliau’n medru fod yn gostus. Dros y Gwyliau ysgol yn ystod 2023, mi fydd Byw’n Iach yn caniatáu i blant a phobl ifanc lleol defnyddio cyrtiau a chaeau tu allan yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y ganolfan a thu allan i sesiynau sydd wedi cael eu bwcio gan gwsmeriaid.
Dyma’r cyfleusterau fydd ar gael:
- Cae Synthetig Plas Ffrancon
- Caeau 5 pob ochr Bangor
- Cae Synthetig a Chyrtiau Tenis & Pêl fasged Arfon
- Cae Synthetig Plas Silyn
- Cae Synthetig a Chyrtiau Tenis Dwyfor
- Cae 5 pob ochr a Chyrtiau Tenis Glaslyn
- MUGA Glan Wnion
- Cae Synthetig a chyrtiau Tenis Bro Dysynni
Mae croeso i rieni a gwarchodwyr chwarae gyda’u plant a fydden ni’n cydweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r Heddlu i drefnu digwyddiadau o dro i dro.
Mi fydd ychydig o offer sylfaenol hefyd ar gael i fenthyg os bydd angen e.e. racedi tenis a pheli.
Mae pobl ifanc lleol wedi ein helpu i greu set o safonau ar gyfer y defnydd yma:
- Parchu’r offer a’r cyfleusterau
- Parchu’r Staff a defnyddwyr eraill
- Dim beics neu sgwteri ar y cyrtiau/ caeau
- Trainers yn unig
- Dim gollwng sbwriel
Os ‘na fydd y safonau’n cael eu cynnal, mi fydd gan staff yr hawl i wahardd unigolion, neu yn y pendraw cau’r cyfleusterau. Felly mae hyn yn eich dwylo chi pobl ifanc Gwynedd!
Diolch yn fawr i Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru (Cronfa PACT) am eu nawdd!
Cyfleusterau Gwlyb :
Cawodydd
Mae gan Byw’n Iach nifer o gyfleusterau hygyrch ac addas i bawb ar draws y sir.
Mae cawodydd ar gael mewn 7 o’n canolfannau, ac ar gael i’w defnyddio am £2.10 i aelodaeth (consesiwn £1.40), a £2.50 i rai sy’n ddi-aelod (consesiwn).
Pyllau Nofio
Mae pyllau nofio ar gael i chi ddefnyddio yn ystod defnydd cyhoeddus, gyda llithren ddŵr yn Byw’n Iach Dwyfor a Penllyn, a cofiwch gallwch ddilyn gyda cawod am ddim yn dilyn y sesiwn yn y pwll.
Gweithgaredd | Defnyddiwr | Pris Aeold | Pris Di-Aelod |
---|---|---|---|
Nofio Cyhoeddus | Oedolyn | £4.80 | £6.30 |
Consesiwn | £3.30 | £4.40 | |
Plentyn Anabl | Am Ddim | - | |
O dan 3 oed | Am Ddim | Am Ddim | |
Tocyn Teulu (2+2) | £13.80 | £18.00 |
* Mae prisiau consesiwn yn berthnasol i 0-24 oed/ defnyddwyr anabl a pobl 60+.
Os ydych yn ymwelydd rheolaidd o fewn yr ardal, mae ein cerdyn Byw’n Iach Blynyddol ar gael i’w brynu am £23.50 (£ 12.80 i 60 + / 16-24 oed / pobl anabl; ac yn rhad ac am ddim i rai dan 16 oed). Gallwch ddefnyddio’r aelodaeth yma am 12 mis. Bydd hyn yn darparu mynediad i’n system archebu o fewn y ganolfannau, ar lein ac ar ap Byw’n Iach, a hefyd yn cynnig pris gostyngedig i chi ar bob ymweliad â’r ganolfan am 12 mis.
Mae’r holl wybodaeth isod ar gael ym mhob un o’n 12 canolfannau ar draws Gwynedd. Dilynwch y linc yma am unrhyw wybodaeth gyswllt ein canolfannau: Cyswllt gyda ni!