Polisi Cwcis

Polisi Cwcis

Pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon am y tro cyntaf byddwch yn cael neges yn dweud bod yn cwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan. Efallai na fydd rhannau o’r wefan yn gweithio’n iawn os ydych yn dewis gwrthod cwcis gan y wefan hon.

Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan – pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau, e.e. ceisiadau am swyddi ar lein.

Mae’r wybodaeth isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:

Pa gwcis mae’r wefan yn ddefnyddio
Cwci Enw Pwrpas
Ystadegau Siteimprove SiteAnalyze Nmstat Mae’r cwci hwn yn cofnodi eich defnydd o’r wefan. Mae’n cael ei ddefnyddio i ddiben dadansoddi ystadegau yn unig, a fydd yn ein helpu ni i wella ein gwefan. Nid yw’r cwci yn dal unrhyw wybodaeth bersonol na sensitif.
Ystadegau Siteimprove SiteAnalyze ASP.NET_SessionId Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi’r drefn y byddwch yn edrych ar dudalennau yn ystod eich ymweliad â’r wefan. Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn ceisio lleihau eich siwrnai chi fel cwsmer o fewn y safle, a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn gynt.
Iaith Iaith Mae’r wefan yn defnyddio cwcis i weithio’n ddwyieithog ac i gofio eich dewis iaith. Os ydych yn dewis peidio â derbyn cwcis mae’n bosibl na fydd gwefan y Cyngor yn gweithio mewn modd mor soffistigedig. Mae’n bosibl y byddwch yn mynd i fersiwn Gymraeg y dudalen bob tro wrth i chi bori drwy’r safle a bydd angen i chi glicio ar y botwm English yn y gornel dop ar y dde er mwyn gweld fersiwn Saesneg y dudalen.
Sesiwn ASP System Rheoli Cynnwys ASPSESSION(AQBDCQBD)
Gall y llythrennau yn y cromfachau amrywio
Mae’r system rheoli cynnwys yn defnyddio’r cwci hwn wrth i chi symud o un dudalen i’r llall o fewn y wefan. Bydd yn cadw cofnod o’ch sesiwn tra rydych ar y wefan. Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Taliadau ar-lein JSESSIONID Mae’r cwci hwn yn dal gwybodaeth wrth i’r cwsmer symud o un dudalen i’r llall o fewn y tudalennau taliadau ar-lein. Nid yw’n dal unrhyw wybodaeth bersonol na sensitif.
Cynllunio – Dilyn a Darganfod UwdSessionID Mae’r cwci yn cael ei ddefnyddio i gofio dewis iaith defnyddiwr o fewn y system Cynllunio – Dilyn a Darganfod yn unig. Bydd y cwci’n cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Cynllunio – Dilyn a Darganfod JSESSIONID Mae’r cwci wedi ei osod o fewn y system chwilio am geisiadau cynllunio. Bydd y cwci yn cadw cofnod o’ch sesiwn wrth i chi chwilio’r system. Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Prawf cwcis Ebase EbaseCookieTest Mae’r cwci hwn yn berthnasol i’r adran Fy Nghyfrif ble bydd gofyn i chi fewngofnodi. Y cwci hwn sy’n dal yr wybodaeth ynglŷn ag os yw’r cwcis ar eich cyfrifiadur wedi eu troi i ffwrdd a’i peidio, ac yna’n dethol yr wybodaeth fydd yn ymddangos yn seiliedig ar hynny.
Sesiwn Ebase JSESSIONID Mae’r cwci wedi ei osod o fewn yr adran Fy Nghyfrif. Bydd y cwci yn dal gwybodaeth ynglŷn ag a ydych wedi mewngofnodi ai peidio. Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Symud rhwng tudalennau Ebase 1_pageSeq_4_(GAL_FY_NGHEISIADAU) Bydd y geiriad yn amrywio yn ddibynnol ar lle ydych chi o fewn y wefan a’r hyn rydych yn ei wneud. Pwrpas y cwci hwn yw cofio eich manylion wrth i chi symud yn ôl ac ymlaen rhwng tudalennau o fewn yr adran Fy Nghyfrif. Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Sesiwn LimeSurvey ls56277422392735315346-runtime-publicportal Mae’r cwci hwn yn bethnasol i holiaduron. Pwrpas y cwci yw helpu i rwystro defnyddiwr rhag cwblhau yr un holiadur nifer o weithiau ble mae hynny’n berthnasol. Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Profi cwcis CwciPrawfTestCookie Cwci sesiwn sydd yn gwirio os yw cwcis ymlaen yn eich porwr yw hwn. Hyn sydd yn pennu a yw y faner cwcis yn cael ei harddangos ar y dudalen ai peidio. Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Cwci Cyngor Gwynedd CwciCyngorGwyneddCookie Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi a ydych wedi derbyn cwcis oddi ar y wefan hon ai peidio. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei ddal yn y cwci hwn.
YouTube Os byddwch yn dewis chwarae fideo YouTube sydd wedi ei osod ar dudalen ar wefan Cyngor Gwynedd, bydd YouTube yn gosod cwci. Mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’r ‘privacy-enhanced mode’ sy’n rhwystro YouTube rhag gosod y cwci oni bai eich bod yn dewis chwarae’r clip fideo.
Canlyniadau etholiadau ardal_
rhanbarth_
Mae’r cwcis yma’n yn cael eu defnyddio i gofio pa ardaloedd a rhanbarthau rydych wedi eu chwyddo. Mae’r cwcis yn cael eu defnyddio o fewn eich porwr yn unig ac yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Holiadur bodlonrwydd ar y wefan holiadur_(x)_cwblhau neu holiadur_(x)_gwrthod
Bydd y rhif sy’n ymddangos yn y cromfachau (x) yn cyfeirio at y fersiwn o’r holiadur.
Mae cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i gofio a ydych eisoes wedi cwblhau’r holiadur neu a ydych wedi nodi nad ydych am gymryd rhan.Bydd yn defnyddio’r wybodaeth i sicrhau na fyddwch yn cael eich gwahodd i gwblhau’r holiadur eto os ydych eisoes wedi ei gwblhau, neu os ydych eisoes wedi nodi nad ydych am gymryd rhan.

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth:

E-bost: dpo@bywniach.cymru

Rhif Ffôn: 01286 679679

Ysgrifennwch at: DPO, Byw’n Iach Cyf. Plas Llanwnda, Stryd y Castell, Carenarfon, Gwynedd. LL55 1SE

Cysylltwch â thîm Byw'n Iach heddiw...

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am ein cyfleusterau Byw'n Iach, pecynnau aelodaeth neu unrhyw beth arall yr ydym yn gynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw.

Cyswllt